Yn unol â gofynion statudol, rhaid i’r AALl lunio polisi rhyddhad i gynorthwyo disgyblion cymwysedig gyda mynd ar ymweliadau preswyl ysgol / gweithgareddau sy’n gysylltiedig gyda’r cwricwlwm ac sy’n golygu cost bwyd a llety dros nos.
Mae Deddf Diwygio Addysg 1988, adran 106 (10) yn rhoi’r diffiniad canlynol ar gyfer ymweliadau / gweithgareddau o’r fath:
106 (10) Yn y Bennod hon mae ‘trip preswyl’ yn golygu unrhyw drip:
(a) a drefnir ar gyfer disgyblion cofrestredig mewn unrhyw ysgol a gynhelir gan neu ar ran y Corff Llywodraethol neu’r awdurdod addysg lleol; a
(b) sy’n golygu bod disgyblion sy’n chwarae rhan yn y gweithgaredd yn treulio un noson neu fwy i ffwrdd o’u llety dros nos arferol.
Gofynion cymhwyster y gweithgaredd:
Rhaid i’r ymweliad / gweithgaredd preswyl fod wedi ei ddiffinio yn glir o fewn Rhaglen Astudiaeth y Cwricwlwm Cenedlaethol; maes llafur arholiad cyhoeddus penodol neu ofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer Addysg Grefyddol fel elfen hanfodol sy’n ei gwneud yn angenrheidiol i holl ddisgyblion yn y dosbarth / grwp fynychu.
Rhaid i’r ymweliad neu’r gweithgaredd preswyl ddigwydd yn ystod yr wythnos ysgol o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Gofynion cymhwyster Disgyblion, Rhieni / Gwarcheidwaid:
Rhaid i riant / warcheidwad cyfreithiol y disgybl fod yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Credyd Pensiwn (Gwarantedig NID Cynilo,) Lwfans Ceisiwr Gwaith ( wedi'i seilio ar incwm) neu Gredyd Treth Plant (ond nid Credyd Treth Gwaith) gydag incwm blynyddol llai na £16,040 (06.04.09), mewn perthynas â’r cyfnod pan fo’r ymweliad / gweithgaredd preswyl yn digwydd.
Taliadau i’w gwneud:
Bydd taliadau rhyddhad yn cael eu cyfyngu i ad-dalu union gost llety a bwyd a achosir gan ddisgyblion sy’n chwarae rhan mewn gweithgareddau preswyl a gymeradwywyd. Ni fydd costau ychwanegol megis cludiant, ffioedd mynediad, llogi offer ac ati yn cael eu had-dalu.
Os nad yw’r ymweliad / gweithgaredd yn bodloni gofynion polisi rhyddhad yr AALl, yna ni fedr yr AALl gynnig unrhyw gymorth tuag at y gost.
Cysylltwch â ysgol eich plentyn am fwy o wybodaeth.

