Logo Cyngor Sir Ddinbych Croeso i Gyngor Sir Ddinbych Lluniau o Sir Ddinbych

  Cartref | Gwasanaethau Ar Lein | Gwasanaethau Cyngor | Atebion | Ffeindio Yr Un Agosaf | A-Y  

Penderfyniadau Dirprwyedig


Penderfyniadau Dirprwyedig - archifdy







Ar 14ydd Mai, 2002 mabwysiadodd Cyngor Sir Ddinbych system Cabinet hefo Arweinydd. Mae Erthygl 7.6 y Cyfansoddiad yn dweud “ bydd y Cabinet yn dirprwyo o leiaf rai swyddogaethau gweithredol i bob Aelod o'r Cabinet, yn ôl portffolio'r Aelod hwnnw”. Mae pob un o'r deg Aelod Cabinet wedi cael swyddogaeth yn ôl eu portffolio unigol. Mae penderfyniad dirprwyedig yn union fel penderfyniad Cabinet arferol ag eithrio pan gymerir y penderfyniad gan un Aelod o'r Cabinet ac nid gan y Cabinet cyfan.

Rhoddir gwybod i Aelodau'r Cabinet am y penderfyniad gan Swyddogion. Os bydd Aelod unigol o'r Cabinet yn gwneud penderfyniad o dan ei bwerau ef neu hi, cyhoeddir cofnod o'r penderfyniad hwnnw a chopi o'r cyngor a roddwyd gan Swyddogion (oni bai ei fod yn cynnwys gwybodaeth sy'n cael ei eithrio neu wybodaeth gyfrinachol) ar y wefan hon.

Ni ellir gweithredu penderfyniad nes y caiff ei gyhoeddi, oni bai bod y mater yn un brys a bod Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio perthynol neu Gadeirydd y Cyngor wedi dweud ei fod yn fater brys.

Show details for 20022002
Show details for 20032003
Show details for 20042004
Show details for 20052005
Show details for 20062006
Show details for 20072007


Swyddfa'r Cabinet
Adran y Prif Weithredwr
Swyddfeydd y Cyngor
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1AT

Ffôn: 01824 706003
Ffacs: 01824 706162