|
Gweithredir Van Ban ym mhob un o barciau ailgylchu Sir Ddinbych. Ni dderbynnir unrhyw wastraff masnach neu fusnes ym mharciau ailgylchu Sir Ddinbych. Cliciwch yma i gael eich ailgyfeirio i dudalen flaen
Van Ban.
|
Sbwriel Adeiladu, Briciau, Teiliau, Pridd
Nid yw'r gwastraff uchod yn cael ei gyfrif fel gwastraff domestig (hyd yn oed os yw'n tarddu o gartref) ac nid oes gan Sir Ddinbych unrhyw orfodaeth i dderbyn y math hwn o wastraff yn ei safleoedd. Rydym yn derbyn swm bach o'r gwastraff hwn ond dim mwy na 3 llond bag pob ymweliad. Os bydd angen cael gwared o fwy o'r math hwn o wastraff yna dylid hurio sgip gan gwmni trwyddedig.
|