- Adneuon ac alldyniadau
- Archifau - Pynciau A-Y
- Cwestiynau a ofynnir yn aml?
- Cyfeillion Archifau Clwyd
- Cyhoeddiadau
- Digwyddiadau
- Dysgu am Archifau
- Gwasanaeth Ymchwil
- Hanes Lleol a Hanes Teulu
- Mynegeion - Enwau Lleoedd A-Y
- Mynegeion - Enwau Personol A-Y
- Mynegeion - Papur Newydd A-Y
- Newyddion Archifdy
- Oriau Agor a Paratoi am eich ymweliad
- Polisiau
- Taliadau
- Tocynnau Darllen CARN
- Ymholiadau
Archifdy Sir Ddinbych
46 Stryd Clwyd
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1HP
Teleffon:
01824 708250
Ffacs:
01824 708222
Swyddfa Gofnodion Sir Ddinbych yn cynnal arddangosfa dirgelwch llofruddiaeth.
Ar Fehefin 29, 2010 fe fydd yn gan mlynedd a hanner ers un o’r troseddau mwyaf drwg-enwog yn Lloegr yn oes Fictoria, fel y’i disgrifir yn llyfr llwyddiannus 2008 The Suspicions of Mr Whicher gan Kate Summerscale.
Mae’r llyfr yn manylu ar yr ymchwiliad i lofruddiaeth plentyn ieuengaf Samuel Saville Kent, archwiliwr ffatri, a’i wraig Mary, yn Road Hill House, Road, ar ffin Gwlad yr Haf/Swydd Wiltshire.
Mae Swyddfa Gofnodion Sir Ddinbych wedi llunio arddangosfa fechan i goffau’r pen-blwydd ac i amlygu cysylltiad Sir Ddinbych â theulu Kent yn dilyn y drosedd.
Roedd llofruddiaeth Francis Saville Kent, a oedd yn bedair oed, ac a gafodd ei gipio o’i got yng nghanol y nos, yn sioc ac yn warth i’r gymdeithas Fictoraidd, ac fe achosodd gyffro mawr. Roedd llawer o enwogion, yn cynnwys Charles Dickens a Wilkie Collins, wedi eu cyfareddu gan y drosedd a’i chanlyniad, a bu hynny’n help i ysbrydoli dechreuad ‘genre’ dirgelwch llofruddiaeth.
Roedd y ffaith fod y dioddefwr yn aelod o deulu parchus dosbarth canol a’i fod wedi ei ddwyn o’r tu mewn i’w gartref cyfoethog a hwnnw wedi ei gloi’n ddiogel, yn golygu fod y llofrudd, yn fwy na thebyg, yn aelod o’r aelwyd honno.
Ymhen hir a hwyr fe gyfaddefodd Constance, un o’r merched a oedd yn ei harddegau, i’r drosedd a chafodd ei dedfrydu i ugain mlynedd mewn carchar. Ond cafodd y teulu eu gorfodi i symud oherwydd y gwarth ac fe gafodd Samuel Saville Kent gynnig swydd archwilydd ffatri yn Llangollen. Yn wreiddiol roedd y teulu’n byw yn Nhretŵr, y tu allan i’r dref, ac yna wedi i Mrs Kent farw yn 1866, fe symudodd Samuel a’i blant i Rydycilgwyn Isa, Rhewl, rhwng Rhuthun a Dinbych lle bu’n byw tan ei farwolaeth yn 1872. Mae Samuel a Mary Kent eu dau wedi eu claddu ym mynwent yr eglwys yn Llangollen.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch y Swyddfa Cofnodion ar 01824 708250.
Mae Gwasanaeth Archifdy Sir Ddinbych yn cynnig cyfle i chi gael golwg ar gyfoeth o ddogfennau a chofnodion gogledd ddwyrain Cymru yn Archifdy Rhuthun. Mae'r archifau, sy'n ganolbwynt ein treftadaeth gofnodedig, yn cael eu casglu, eu cadw a'u cyrchu gan staff cymwynasgar a gwybodus.
Ymunwch â'r miloedd sy'n ymweld â'r Archifdy bob blwyddyn i olrhain eu hachau, hanes eu cartrefi, i ganfod rhagor am eu tref, pentref neu stryd yn y gorffennol, neu ddefnyddio'r miloedd lawer o gofnodion at ddibenion swyddogol neu gyfreithiol.
Yn Archifdy'r Sir yn Rhuthun rydym ni yn:
- eich cynorthwyo i gael gwybodaeth yn uniongyrchol o'r dogfennau yn ein gofal, sy'n dyddio o'r ddeuddegfed ganrif i'r presennol
- cyflawni gwaith ymchwil ar eich rhan am ffi, os y dymunwch
- casglu cofnodion yn ymwneud â Sir Ddinbych gan awdurdodau lleol, plwyfi, capeli, teuluoedd, unigolion, busnesau a sefydliadau o bob math er defnydd a budd cenedlaethau o ymchwilwyr y dyfodol, yn ol ein polisi casglu (gweler y cyswllt 'Polisiau' ar y chwith.
- casglu a chopïo cofnodion ffotograffig
- diogelu'r dreftadaeth hon drwy gadwraeth ofalus yr archifau a'u storio mewn ystafelloedd diogel pwrpasol, yn ôl ein polisi cadwraeth (gweler y cyswllt 'Polisiau' ar y chwith).
- cynorthwyo ein defnyddwyr i chwilio drwy'r cofnodion (fel papurau newydd, ffurflenni cyfrifriad a chofestri plwyf) drwy gyfrwng microffilm neu gyfrifiaduron
- paratoi arddangosfeydd am archifau
- cyflwyno sgyrsiau/cyflwyniadau i gymdeithasau a sefydliadau
Nod Archifdy Sir Ddinbych yw cadw cofnod ddogfennol mor gyflawn â phosibl o hanes y Sir. Gall y cyhoedd gynorthwyo drwy hysbysu Archifydd y Sir am unrhyw ddeunydd o ddiddordeb hanesyddol, yn enwedig unrhyw ddeunydd a allai fod mewn perygl.

