- Adran Cefnogi Myfyrwyr
- Budd-daliadau Addysgol
- Canfod Ysgol
- Cau Ysgolion
- Cefnogaeth Ychwanegol i Blant a Phobl Ifanc
- Cludiant Ysgol
- Cwynion am ysgolion
- Cyllid Ysgolion
- Cynorthwy-ydd Addysgu Lefel Uwch (CALU)
- Cyrsiau addysg i oedolion
- Cytundeb Partneriaeth 2012-15
- Derbyn i Ysgolion
- Dyddiadau Tymor a Dyddiadau Hyfforddiant
- Gwersi Cerdd
- Llywodraethwyr
- Trefniadaeth a Moderneiddio Ysgolion
- Trefniadau a Pholisïau Ysgol
- Ysgolion
Gwasanaethau Addysg
Cyngor Sir Ddinbych
Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
LL15 1YN
Teleffon:
01824 712777
Ffacs:
01824 712654
Yn ôl 'Gweledigaeth' yr Awdurdod rydym yn chwilio i ysgolion er mwyn cynnal safonau uchel cyrhaeddiad addysgol i gyfarfod anghenion disgyblion, y gymuned ehangach a'r economi.
Mae’r rhaglen Moderneiddio Addysg yn cwmpasu tair ffrwd gwaith:
- Gwella safonau mewn ysgolion tra’n hyrwyddo cynhwysiant;
- Moderneiddio ysgolion;
- Darparu gwasanaethau cefnogi i ysgolion.
Mae’r tri maes gwaith yma yn cyfrannu at darged y cyngor o sicrhau y bydd perfformiad Cyngor Sir Ddinbych yn y 10 uchaf yng Nghymru ar gyfer cyrhaeddiad yn y Cyfnodau Allweddol.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd bod ag adeiladau sy’n ffit i’r pwrpas sy’n cyfarfod ag anghenion addysg y byd modern. Mae angen i ysgolion allu darparu’r profiadau dysgu gorau posibl i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y cyfleoedd gorau sydd ar gael iddyn nhw a’u bod yn gallu cyrraedd eu potensial llawn. Fe fabwysiadodd y cyngor y Fframwaith Polisi Moderneiddio Addysg ar Ionawr 27 2009. Mae’r fframwaith hon yn rhoi sylfaen i’r Cyngor cynllunio’n strategol ar gyfer darpariaeth ysgol. Am fwy o wybodaeth ar prosiectau cyfredol edrychwch ar y cyswllt ‘Rhaglen Moderneiddio a Aildrefnu Ysgolion’ ar ochr y sgrin.
Cafodd y tudalennau hyn eu datblygu i'ch helpu i gael gwybodaeth am y gwasanaethau a ddarparwn i ddisgyblion meithrin, cynradd ac uwchradd gan gynnwys darpariaeth 16-19. Gallwch hefyd gael gwybodaeth am lawer o fudd-daliadau a chymorth ariannol.
I ddod o hyd i adroddiad arolygu ysgol neu goleg, ewch i wefan Estyn.
Ffoniwch ni os methwch ganfod yr hyn a ddymunwch neu os oes gennych unrhyw sylwadau am sut i wella ein gwasanaeth gwefan i chi.


