Cyd-uned Cynlluniau Argyfwng
Neuadd y Sir
Yr Wyddgrug
Sir y Fflint
CH7 6NG
Teleffon:
01352 702124
Ffacs:
01352 754005
Croeso i dudalennau gwe Cynlluniau Argyfwng Sir Ddinbych
Mae’r tudalennau’n rhoi gwybodaeth am swyddogaeth Tîm Cynlluniau Argyfwng Sir Ddinbych wrth baratoi ar gyfer argyfyngau posibl. Hefyd cewch wybodaeth am baratoi ar gyfer argyfwng personol neu argyfwng busnes.
Arwyddodd Sir Ddinbych gyd-drefniant gyda Sir y Fflint i ddarparu un gwasanaeth cynlluniau argyfwng i’r ddau awdurdod unedol. Gelwir yr uned newydd yn Gyd-uned Cynlluniau Argyfwng ac mae ei swyddfa yn yr Wyddgrug yn Sir y Fflint.
Mae’r Uned Cynllunio Argyfwng yn gyfrifol am gydgordio ymateb Sir Ddinbych i unrhyw argyfwng sy’n effeithio ar ei gymuned. Gallai hynny olygu trychineb oherwydd y tywydd, cludiant, damwain ddiwydiannol, llifogydd neu derfysgaeth. Gall hyn olygu y bydd angen i staff ac aelodau’r Sir fod ar gael yn ogystal â’r gwasanaethau argyfwng, awdurdodau lleol cyfagos, amwynderau, grwpiau gwirfoddol a mudiadau eraill. Bydd ymateb wedi’i gynllunio yn lleihau effaith yr argyfwng ac yn cynorthwyo’r gymuned ddod yn ôI i normal.
Mae Cyngor Sir Ddinbycg wedi paratoi’r Arweiniad hwn er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol ynglyn â sut y medrwch amddiffyn eich hun pan ddigwydd damwain neu argyfwng erchyll. Cewch eich cynghori ynglyn â’r hyn y dylech ei wneud, yn ogystal â’r hyn na ddylech ei wneud, wrth baratoi ar gyfer argyfwng heb darfu ar eich bywyd dyddiol.


Rhoi adborth ar y tudalen hon