| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Manylion Cysylltu'r Gwasanaeth
Cyfeiriad:
Gwasanaethau Archwiliad Mewnol
Cyngor Sir Ddinbich,
Fronfraith,
c/o Ty Russell,
Ffordd Churton,
Y Rhyl,
LL18 3DP
Teleffon:
01824 706206
Ebost
Archwiliad Mewnol
Swyddfa Archwiliad Mewnol

Croeso i Gwasanaethau Archwiliad Mewnol

Rydym yn cynghori Aelodau a rheolwyr y Cyngor ar ba mor effeithlon ac effeithiol y mae gwasanaethau’r Cyngor yn cael eu cyflwyno. 
Rydym yn cynnal arolygon gwrthrychol ac yn darparu adroddiadau manwl o’n gwaith ac yn awgrymu meysydd posibl i’w gwella.

Paham y mae angen Archwilio Mewnol arnom?

Drwy ddeddfwriaeth mae’n rhaid i’r Cyngor wneud yn siwr fod ganddo wasanaeth archwilio mewnol effeithiol.
Gall ein gwaith helpu rheolwyr i wneud yn siwr fod:

  • cofnodion ac adroddiadau yn ddibynadwy a chywir
  • polisïau a gweithdrefnau’r Cyngor yn cael eu dilyn
  • deddfau a rheoliadau’n cael eu cwrdd
  • pob gwaith a wneir yn effeithiol, effeithlon ac economaidd
  • asedau’r Cyngor yn cael eu diogelu
  • risgiau’n cael eu clustnodi ac yn cael sylw
  • y gall amcanion y Cyngor gael eu cwrdd

Math o Archwiliad Mewnol a wnawn:
  • Archwiliad o risg o fewn gwasanaethau'r Cyngor Sir
  • Archwiliad TG
  • Archwilio Contractau – arolwg o brosiectau cyfalaf a refeniw
  • Archwiliad arbennig i dwyll, llygredd a materion ariannol afreolaidd
  • Archwiliad dilynol
  • Archwiliad i'n cwsmeriaid allanol – Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru
  • Rheolaeth y tîm archwilio o Gyngor Cefn Gwlad Cymru
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0