| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Manylion Cysylltu'r Gwasanaeth
Cyfeiriad:
Cyngor Sir Ddinbych, Neuadd y Sir, Ffordd Wynnstay, Rhuthun, LL15 1YN
Teleffon:
01824 706100
Ebost
Gyfarwyddiaeth Adnoddau
Alan Evans

Ein Datganiad Cenhadaeth:

"Ein cenhadaeth yw cefnogi’r Cyngor Sir wrth gyflawni ei weledigaeth ar gyfer Sir Ddinbych drwy ddarparu gwasanaeth proffesiynol, effeithlon, effeithiol a chwsmer-ganolog sy’n cael ei arwain gan werthoedd y Cyngor, sef Undod, Gonestrwydd, Balchder a Pharch."
 
Alan Evans (Cyfarwyddwr Corfforaethol  Adnoddau a Dirprwy Brif Weithredwr.)

Mae’r Gyfarwyddiaeth Adnoddau yn cynnwys y swyddogaethau Cyllid, Eiddo Corfforaethol, Gofal Cwsmer, Archwilio Mewnol, Technoleg Gwybodaeth a Phersonél. Y thema gyffredin yw bod pob un o’r swyddogaethau hyn yn gyfrifol am ddyrannu adnoddau o fewn yr Awdurdod. Mae gan y Gyfarwyddiaeth rôl arwyddocaol hefyd mewn perthynas â Llywodraeth Gorfforaethol, o ran rôl y Prif Swyddog Cyllid (Adran 151) statudol a ddelir gan y Cyfarwyddwr a hefyd y monitro a ddarperir gan Archwilio Mewnol. Mae tua 200 o weithwyr o fewn y Gyfarwyddiaeth yn gweithio o nifer o leoliadau ledled y Sir.
 
Cyllid

Cyfrifoldeb yr adran hon yw sicrhau bod cyllid yr awdurdod yn cael ei weinyddu’n briodol.
Cyfrifyddiaeth Reolaethol
Tra bo llawer o’r swyddogaethau ariannol pob dydd yn cael eu gwneud gan gyfarwyddiaethau, mae’r adran Gyfrifyddiaeth Reolaethol yn cadw golwg cyffredinol strategol ar sefyllfa ariannol yr awdurdod.
Mae’n gyfrifol hefyd am gynhyrchu’r gyllideb flynyddol a’r cyfrifon terfynol ar
gyfer refeniw ac ar gyfer cyfalaf.
Gwasanaethau Trysorlys a Chyfrifeg Ariannol
Mae gan swyddogaeth y Trysorlys gyfrifoldeb am wneud yr holl daliadau a derbyn
yr holl incwm ar ran y cyngor ac mae wedi’i drefnu’n dair adran; Talu Cyflogau, Taliadau Credydwyr ac Arianyddion.
Mae Cyfrifeg Ariannol yn cynnwys yr adran Lejer, yr adran Dechnegol a’r adran
Gwasanaethau Cefnogi Refeniw. Y Lejer yw prif system gyfrifeg y Cyngor. Mae
Technegol yn cynnwys Yswiriannau, Prydlesu, Rheolaeth y Trysorlys, TAW a
Chysoniad Banc. Mae Gwasanaethau Cefnogi Refeniw yn darparu cefnogaeth,
gweithgareddau a chysoniad systemau TG, i’r adrannau Refeniw a rhenti Tai. 
Trethiant Lleol
Sydd â’r cyfrifoldeb am gasglu Treth y Cyngor, Trethi Annomestig Cenedlaethol ac
incwm Dyledwyr yn unol â pholisi casglu dyled y Cyngor. 
Budd-daliadau
Mae’r cynlluniau budd-dal tai a budd-dal treth y cyngor yn cael eu gweinyddu hefyd
i gwsmeriaid ar draws yr awdurdod. 
 
Archwilio Mewnol

Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu gwasanaeth rhagweithiol i’r rheolwyr sydd wedi’i
gynllunio i ychwanegu gwerth at a gwella gweithgareddau’r Cyngor drwy
gyfranogiad helaeth mewn Rheolaeth Risg Busnes, y broses Gwerth Gorau a
Rheoli Perfformiad.
Mae’n sicrhau hefyd fod asedau’r Cyngor yn ddiogel a bod ei weithgareddau’n cael
eu gweinyddu a’u rheoli o fewn y gyfraith, ac yn unol â’r systemau a’r rheolaeth a
gymeradwywyd

Technoleg Gwybodaeth A Chyfathrebu

Mae’r term Technolegau Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) yn ymadrodd llac
sy’n cynnwys llawer o ffyrdd o gasglu, storio, prosesu, adfer a chyfathrebu
gwybodaeth. Bydd TGCh yn dylanwadu ar ac yn cynghori ar y newidiadau
diwylliannol a threfniadol sydd angen eu gwneud mewn adrannau unigol, er mwyn
mwyhau manteision buddsoddiadau TGCh. Mae’r gwasanaeth hwn yn gyfrifol hefyd
am sicrhau bod yr offer cyfrifiadur a ffôn cywir yn ei le i adrannau ledled yr
awdurdod allu gwneud eu gwaith yn effeithlon. 

 
Personél Canolog

Mae’r adran hon yn gyfrifol am gyflwyno gwasanaeth personél i Adran y Prif
Weithredwr, Gwasanaethau Contract a’r Gyfarwyddiaeth Adnoddau.
Yn ogystal, mae’n delio â materion personél, dysgu a datblygu corfforaethol,
yn cynnwys strategaeth a pholisi. Mae’r adran yn cynnwys Iechyd Galwedigaethol,
gwasanaeth meddygol cyfrinachol ac uned Iechyd a Diogelwch sy’n gwneud yn siŵr
fod yr awdurdod yn darparu ar gyfer iechyd, diogelwch a lles corfforol ei weithwyr.

Gwasanaeth Gofal Cwsmer

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymroddedig i sicrhau bod ein gwasanaethau, cyfleusterau ac adnoddau ar gael ac yn ymateb i bob unigolyn ym mhob cymuned.
Mae gwasanaeth Gofal Cwsmer yn gyfrifol am welliant parhaus dulliau cyfathrebu rhwng y Cyngor a'i gwsmeriaid -
wyneb yn wyneb, drs y ffôn ac ein gwefan.
Mae Gofal o'r Cwsmer yn cynnwys y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmer, ein swyddfeydd arian a thîm gwefan y Cyngor Sir.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0