Gwasanaethau Cwsmer y Gogledd
64 Ffordd Brighton
Y Rhyl
LL18 3HP
Teleffon:
01824 712900
Ffacs:
01824 712888
SMS:
07917597993
Croeso i Gwasanaethau Cymdeithasol
Yr ydym yn darparu llawer o whanol wasanaeth i llawer helaeth o bobl, gan gynnwys:
- plant a theuluoedd;
- pobl anabl;
- pobl sydd ag anabledd dysgu;
- pobl hŷn;
- pobl gyda phroblem iechyd meddwl;
- pobl sydd â phroblemau gyda’u golwg, sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw;
- pobl sy’n camddefnyddio cyffuriau neu alcohol; a
- phobl sy’n gofalu am rywun.
Dros y flwyddyn i ddod byddwn yn datblygu ein ffocws ar ganlyniadau pobl sy'n defnyddio eich gwasanaethau. Mae hyn yn golygu y byddwn yn ystyried y gwahaniaeth a wnawn i fywydau pobl. Byddwn yn talu sylw arbennig at y canlyniadau a nodwyd yn 'Bywydau Bodlon, Cymunedau Cefnogol' sy’n amlinellu’r cynllun 10 mlynedd ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol ar draws Cymru. Os byddwn yn cyflawni Gweledigaeth y Gyfarwyddiaeth, bydd hyn yn helpu sicrhau bod pobl Sir Ddinbych:
- yn mwynhau gwell iechyd ac yn hapusach;
- mor annibynnol ag y bo modd;
- yn mwynhau sicrwydd ariannol;
- yn cael dweud eu dweud ar faterion sy’n effeithio ar eu bywydau a bydd eu barn yn cael ei chymryd i ystyriaeth;
- yn cael defnydd cyfartal o wasanaethau yn seiliedig ar yr asesiad o’u hanghenion a byddant yn gallu cael at dai fforddiadwy, o ansawdd da;
- aros yn ddiogel, yn enwedig plant ac oedolion hawdd eu niweidio;
- yn gwireddu eu potensial llawn ac yn mwynhau bywyd;
- yn mwynhau amgylchedd gwell a chymryd rhan o fewn eu cymuned leol;
- yn medru gwella eu sgiliau gan greu gweithlu hapus ac iach gyda'r sgiliau priodol i wneud y gwaith;
- yn medru gweithio'n effeithlon gan ddefnyddio adnoddau megis eiddo a thechnoleg yn effeithlon.
I gael gwybod a allwn ni helpu, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Os na ellwch chi gysylltu â ni eich hun, gofynnwch i berthynas neu ffrind wneud hynny ar eich rhan, neu llenwch y ffurflen gyfeirio ar-lein, dan Gwnewch o Ar-lein (uchod).
Os ydych angen cymorth brys y tu allan i oriau swyddfa (5pm i 9am), ffoniwch Wasanaeth Gwaith Cymdeithasol Brys Sir Ddinbych, ar 0845 05 33 116
Dyma'r Strategaeth Cyfathrebu ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai. Mae ein nodau ar gyfer 2007-10 o safbwynt cyfathrebiadau’n cyfarwyddiaeth wedi eu hamlinellu yn y strategaeth hon, fel y mae ein hamcanion cyffredinol. Mae’r cynllun gweithredu ym mhob adran yn dynodi sut y byddwn ni’n cyflawni’n nodau a chaiff ei adolygu’n flynyddol.



Rhoi adborth ar y tudalen hon