| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd | Help |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Manylion Cysylltu'r Gwasanaeth
Cyfeiriad:
Twristiaeth
Cyngor Sir Ddinbich
Yr Hen Garchar
46 Stryd Clwyd
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1HP
Teleffon:
01824 708242
Ffacs:
01824 708202
Ebost
Gwnewch O Arlein
Twristiaeth
Y Rhyl

Mae Sir Ddinbych yn rhan o ardal brydferth Gororau Gogledd Cymru. Mae’n estyn o drefi gwyliau glan môr y Rhyl a Phrestatyn yn y gogledd, drwy Ddyffryn Clwyd, dros Fwlch yr Oernant panoramig i brydferthwch Dyffryn Dyfrdwy. Tref brysur Llangollen yw cartref yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol ac mae ar gyrion Safle Treftadaeth y Byd sydd newydd gael ei ddynodi, sef Traphont Dŵr Pontcysyllte a Chamlas Llangollen.

Mae Bryniau Clwyd wedi cael eu dynodi’n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ers 1985, ac yn rhedeg tua’r de o Brestatyn am 35 km.

Mae tref fechan Corwen mewn lleoliad ysblennydd ar gyfer cerdded.

Mae’r sir yn boblogaidd gydag ymwelwyr dydd a phobl ar wyliau byr, gan ei bod mor hawdd i’w chyrraedd. Ar yr arfordir, gall teuluoedd gael gwyliau sy’n werth da am yr arian, ac mae ei chyfoeth o dreftadaeth a diwylliant yn gwneud Sir Ddinbych yn lle deniadol iawn i ddod iddi.

Bydd y rhan ar hyd yr arfordir (Y Rhyl, Prestatyn a’r tir yn union tu cefn) yn cael ei hyrwyddo fel Trefi Glan Môr Dwyreiniol Gogledd Cymru, o dan y ‘brand’ Rhyl & Prestatyn.  Mae Sir Ddinbych wledig (Dyffryn Clwyd, Rhuthun, Llanelwy, Dinbych, Corwen, Llangollen, a Dyffryn Dyfrdwy) yn ardal Gororau Gogledd Cymru, gyda’r siroedd sy’n agos atom, Wrecsam a Sir y Fflint.

Mae Sir Ddinbych hefyd yn rhan o nifer o ymgyrchoedd marchnata gan Bartneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru a Croeso Cymru.

Am fwy o wybodaeth am yr Uned Dwristiaeth a’i gwaith, gyrrwch e-bost atom os gwelwch yn dda.

 Llyfrnodwch y dudalen yma: Delicious image del.icio.us | Digg image Digg | Reddit image Reddit | Facebook image facebook | Stumbleupon image StumbleUpon | Llyfrnodi cymdeithasol  
 Diarddelwad | Polisis Dirgelwch | Ystadegau'r Wefan | ©2010 Cyngor Sir Dinbych