Priffyrdd ac Isadeiledd
Cyfarwyddiaeth Amgylchedd
Caledfryn
Ffordd y Ffair,
Ddinbych,
Sir Ddinbych LL16 3RJ
Teleffon:
01824 706800
Ffacs:
01824 706970
Mae staff a Gwasanaeth Priffyrdd ac Isadeiledd yn chwarae rhan allweddol i sicrhau bod olwynion Sir Ddinbych yn troi'n hwylus, drwy gynnal a chadw rhwydwaith priffyrdd sy'n cynnwys yr holl bontydd cysylltiedig, adeileddau a meysydd parcio; delio a holl faterion traffig, yn cynnwys diogelwch ar y ffyrdd a chroesfannau ysgol; rheloi darpariaeth gwasanaethau bysiau a chludiant ysgolion ynghyd a chynnal a chadw fflyd o gerbydau'r Cyngor.
Mae 7 rhan i'r Adran hon sy'n delio a holl ddarpariaethau'r gwasanaeth uchod.
Rheloaeth Rhwydwaith
Mae'n gyfeiriol am gynnal a chadw'r rhwydwaith ffyrdd arferol, yn cynnwys palmentydd, hawl tramwy'r cyhoedd (llwybrau ceffyl a man ffyrdd), gwaith stryd (cydgysylltu a chymeradwyo'r holl waith o fewn priffyrdd), draeniad, graeanu yn y gaeaf a pharcio cerbydau, ar y stryd yn ogystal a meysydd parcio'r Cyngor.
Pontydd ac Adeiladau
Mae'r adran hon yn gyfrifol am gynnal a chadw'r holl bontydd, ffosydd a muriau cynhaliol priffyrdd, amddiffynfeydd a glannau, a rheoli llwythi annormal.
Prif Brosiectau
Mae'r adran hon yn gyfrifol am holl brif atgyweiriadau a gwellianau rhwydwaith ffyrdd a prif brosiectau eraill gan gynnwys Foryd Harbour a gweithiau adeiladaeth.
Cludiant Cyhoeddus
Mae'r adran hon yn gyfrifol am wasanaethau bysiau, cludiant cymuneldol, safleodd aros a chabannau aros bysiau, amserlenni, cludiant ysgol a choleg ynghyd a theithio rhad ar gyfer pobl hyn a phobl anabl.
Cynnal a Chadw Cerbydau a Rheolaeth Fflyd
Mae'r gwasanaeth hwn, sydd wedi ei leoli mewn adeiladau newydd ym Mharc Busnes Ffordd Gyflym, Bodelwyddan, yn gyfrifol am reoli, cynnal a chadw 350+ o gerbydau a pheiriannau'r Sir.
Mae'r lleoliad newydd hwn hefyd yn gymwys i wneud amrediad llawn o brofion MOT'au yn cynnwys bysiau a Cherbydau Newydd Trwm.
Trafnidiaeth a Thrawsgludiad
Mae'r adran hon yn gyfrifol am Reoli Trafnidiaeth, (gorchmynion rheolaidd trafnidiaeth, cyfyngiadau parcio ochr stryd, arwyddion a goleuadau traffig). Diogelwch Trafnidiaeth (atal damweiniau), Diogelwch ar y Ffyrdd (addysg, cyhoeddusrwydd a hyfforddi). Trawsgludiad (trafnidiaeth/data damweiniau, strategaeth cynllunio ymlaen llaw). Mae Rheoli Datblygu Priffyrdd yn ymwneud ag unrhyw ddatblygiad newydd sy'n effeithio ar, neu'n creu, priffyrdd newydd, cofnodion mabwysiadau a Chwiliadau Lleol.
Rheoli Ased a Pholisi
Mae'r adran hon yn gyfrifol am sicrhau bod polisiau effeithiol ac effeithlon yn eu lle fel bod rhwydwaith priffyrdd yn cael eu cynnal a'u cadw yn ol safonau derbyniol sy'n gost effeithiol.
Yr eithriad yw Golau Strydeodd, ac arwyddion ffyrdd goliwiedig, sy'n cael eu cynnal a'u cadw gan Wasanaethau Amgylcheddol y Cyngor.
Cydweithrediad
Mae ‘cydweithrediad’ Priffyrdd a Seilwaith yn seiliedig ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych yn cydweithio.
Mae Pennaeth Gwasanaeth ar y Cyd Bwrdd Rhaglen Priffyrdd a Seilwaith wedi cytuno ar fandad clir i’r ddau dīm Priffyrdd a Seilwaith integreiddio’n un tīm.
• Fe wnawn integreiddio’r timau a’r prosesau erbyn Mawrth 31, 2010
• Fe wnawn ddarparu gwasanaeth costeffeithiol sy’n fwy cyfeiriedig tuag at y cwsmer
• Fe geisiwn gyfleoedd sy’n ein galluogi i gynhyrchu incwm
Mae rhaglen yn cael ei sefydlu gyda chynllun i gynnwys cerrig milltir a phwyntiau gwirio ar gyfer y prosiect.
Bydd hyn yn rhoi fframwaith cadarn ac yn cynorthwyo darpariaeth y canlyniad yn amserol.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, gallwch gysylltu ā Mike Graham, Rheolwr y Rhaglen ar e-bost: michael.graham@denbighshire.gov.uk

