| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Dewis Gofal Plant
Logo Gwasanaeth Gwybodaeth Plant

Mae dewis y math cywir o ofal plant yn benderfyniad pwysig a phersonol iawn. Dibynna’r math o ofal plant sydd orau ar eich cyfer chi, ar anghenion eich plentyn/plant ac ar eich sefyllfa deuluol.

Heb wybodaeth ddigonol, gall y gwahanol fathau o ddarpariaeth ymddangos yn ddryslyd. Ein hamcan ni ydi sicrhau y gallwch wneud dewis deallus ar ôl ystyried yr holl opsiynau a materion eraill.

Mae’n cymryd amser i ddod o hyd i ofal plant addas a dylech fod yn barod i dreulio amser yn sicrhau bod eich plentyn/plant yn teimlo’n gartrefol gyda’r person a ddewiswch fel gofalydd.

Mae gan lawer o gyflenwyr gofal plant restr aros am leoedd, felly mae’n bwysig meddwl am y math o ofal a darpariaeth yr ydych am ei gael.

Dylai unrhyw un sydd am ddychwelyd i weithio ar ôl genedigaeth plentyn ystyried yr opsiynau hyd yn oed cyn geni’r plentyn.

Gofalydd Plant
Person sy’n gofalu am nifer o blant am fwy na dwy awr y dydd yn ei g/chartref
ei hun ydi gofalydd plant. Rhaid iddynt gael eu cofrestru a’i harchwilio gan yr Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru (AGGCC) i ofalu am fwyaf-swm o blant 0 – 8 oed, a rhaid iddynt fod yn yswiriedig. Gallant ofalu am blant hŷn hefyd.

Meithrinfeydd Dydd
Darpara meithrinfeydd dydd preifat, ofal llawn-amser neu ran amser yn ystod y dydd. Fel arfer, mae hyn ar gyfer plant rhwng 0 a 5 ond weithiau darperir gofal i blant hŷn y tu allan i oriau ysgol neu yn ystod gwyliau ysgol. Rhaid iddynt gael eu cofrestru a’u
harchwilio gan yr AGGCC.

Mamaeth (Nani)
Person a gyflogir gan deuluoedd i ofalu am blant yn eu cartref eu hunain ydy mamaeth. Gallant fyw i mewn neu allan. Nid oes rhaid iddynt gofrestru gyda’r AGGCC, oni bai eu bod yn gofalu am blant mwy na dau deulu.

Clybiau Allan o’r Ysgol
Darpara Clybiau Allan o’r Ysgol ofal ar gyfer plant oedran ysgol cyn, ac yn fwy arferol, ar ôl oriau ysgol ac weithiau yn ystod gwyliau’r ysgol. Rhaid iddynt gael eu cofrestru a’u harchwilio gan yr AGGCC.

Grŵp Chwarae / Cylch Meithrin
Mae Grŵpiau Chwarae yn cynnig amgylchedd diogel ac ysgogol lle y gall plant chwarae a dysgu gyda phlant eraill o’u cymuned leol. Gofalant am blant rhwng 2½ a 4 oed, fel arfer am 2-3 awr yn y bore neu’r prynhawn ac yn ystod y tymor ysgol yn unig. Rhaid i Grŵpiau Chwarae gael eu cofrestru a’u harchwilio gan yr AGGCC.

Grŵp Rhieni a Phlant Bach / Cylch Ti a Fi
Mae Cylchoedd Ti a Fi a Grŵpiau Rhieni a Phlant Bach yn darparu ar gyfer plant o dan 2½ oed. Mae rhieni/gofalwyr yn gyfrifol am eu plant eu hunain a RHAID iddynt aros gyda’r plant. Mae’r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i rieni gwrdd â rhieni eraill a chyfle i blant gymysgu â phlant eraill gan fwynhau amrywiaeth o weithgareddau.

Crèche
Mae crèche yn le y gall plant gael gofal tra bod y rhiant/rhieni yn gwneud pethau eraill gerllaw e.e. siopa, chwaraeon a chyrsiau hyfforddi. Cynlluniwyd crèches i ddarparu hyd at 4 awr o ofal ar y tro ar gyfer plant rhwng 0 i 8 oed. Rhaid i bob un gael ei gofrestru a’i archwilio gan yr AGGCC, oni bai eu bod yn cael eu defnyddio am lai na chwe diwrnod y flwyddyn. Dylai’r AGGCC dal i gael gwybod os cynhelir crèche.

Gwarchod Plant
Gofala gwarchodwr am blant yn eu cartrefi am gyfnodau byr, fel arfer yn ystod y min nos, tra bo rhieni yn mwynhau ychydig o amser rhydd. Nid yw’r gyfraith yng Nghymru a Lloegr yn rhwystro unrhyw berson o unrhyw oedran rhag gwarchod plant, ond mae cyfrifoldeb ar y rhieni i sicrhau nad ydynt yn gadael eu plant mewn sefyllfaoedd a allai fod yn beryglus. Mae taflenni a chyngor ar gael gan yr NSPCC Rhif ffôn 01978 362 383.

Dosbarthiadau Meithrin Ysgolion
Gall plentyn fynychu dosbarth Meithrin y tymor ar ôl ei ben-blwydd yn dair oed, fel arfer ar sail ran-amser o bum bore neu bum prynhawn yr wythnos.

Dosbarthiadau Derbyn Ysgolion
Gall plentyn ddechrau mewn Dosbarth Derbyn yn llawn-amser mis Medi ar ôl ei ben-blwydd yn 4 oed.

Lle bo hynny’n bosibl, dylid cwblhau ffurflen yn yr ysgol ym mis Chwefror cyn i’ch plentyn ddechrau ym mis Medi.

Pan fyddwch yn barod i ymweld â rhai o’ch dewisiadau, edrychwch am y sylwadau ansawdd canlynol.

· Ydi’r plant yn ddigynnwrf, diogel a hapus?
· Ydi’r plant yn chwarae a siarad gyda’i gilydd?
· Ydi’r staff yn gwrando ar y plant ac yn eu hateb yn ofalus?
· A yw’r staff yn gyfeillgar ac yn ymfalchio yn eu gwaith?
· A oes llawer o weithgareddau hwyliog wedi eu trefnu i helpu i blant ddysgu a chwarae?
· All y plant drefnu rhai o’r rhain eu hunain?
· A oes digon o degannau ac offer glân at ddefnydd y plant?
· A yw’r safle’n lân, trefnus a diogel i blant, gyda man chwarae tu allan, (neu a fyddant yn mynd i barc a llefydd eraill yn gyson)?
· A oes cyfle i rieni ddweud beth maent yn ddymuno ar gyfer eu plant?

Peidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau. Mae staff gofal plant da yn disgwyl cael eu holi ac yn hapus iawn i ateb.

Am fwy o wybodaeth a chyngor a fydd yn eich helpu i bwyso a mesur yr opsiynau o ran gofal plant sydd fwyaf addas i'ch plentyn, cliciwch ar y ddogfen 'Dewis Gofal Plant' isod - Llyfryn gan Llywodraeth y Cynulliad yn egluro'r ddarpariaeth sydd ar gael yng Nghymru.

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0