| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Gwasanaeth Ymchwil
Achau ac arfbeisi Cymreig a'r Gororau a elwir y 'Painted book', 17eg ganrif

Mae Archifdy Sir Ddinbych yn cynnig gwasanaeth ymchwil proffesiynol i gynorthwyo ymchwilwyr na allant ymweld â’r archifdy eu hunain. Am swm dechreuol bydd aelod o staff yr Archifdy yn cyflawni gwaith hel achau neu waith ymchwil hanesyddol arall ar eich rhan, cyn belled â’ch bod yn cyflwyno digon o wybodaeth fanwl wrth wneud eich cais.

Yna bydd y gwasanaeth yn chwilio drwy’r amrediad eang o ddeunydd hanesyddol yn yr Archifdy. Cost y gwasanaeth yw £21.00 yr awr yn cynnwys TAW, a £9.00 am bob hanner awr ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys adroddiad terfynol am y chwiliad a’r canlyniadau, gydag awgrymiadau am ymchwil pellach lle bo’n berthnasol. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cynnwys cost llungopïau neu feicroprintiau ac ati. Dylid cyflwyno cais am chwiliad ar y ffurflen archebu swyddogol (ar gael ar ffurf PDF ar waelod y dudalen hon), a’i hanfon gyda siec/archeb bost am y ffi isafswm o £21.00, yn daladwy i Cyngor Sir Ddinbych.

Yn achos gwaith ymchwil mwy swmpus, bydd y swyddog perthnasol yn cysylltu â’r chwiliwr i’w hysbysu am unrhyw gostau pellach, a phan delir y costau hynny bydd y gwaith ymchwil yn dechrau. Fodd bynnag, os yw’r chwiliad yn un penagored, gellir talu’r uchafswm a ddymunir wrth gyflwyno’r ffurflen archebu, er enghraifft ‘ni ddylai’r gost oresgyn £39.00’ (h.y. 2 awr o ymchwilio).

Dylai’r cais fod mor fanwl ag y bo modd. Er enghraifft, ni fyddai cais am wybodaeth ynghylch genedigaeth John Jones yn Sir Ddinbych yn ystod dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ddichonadwy. Serch hynny, byddai cais am wybodaeth ynghylch genedigaeth John Jones, Rhuthun, tua 1825-35, yn dderbyniol.

Rhaid pwysleisio na ellir gwarantu y bydd yr ymchwil yn llwyddiannus, a dim ond os ystyrir bod chwiliad yn anichonadwy o’r dechrau un y rhoir ad-daliad. Derbynnir ceisiadau am chwiliadau yn ôl disgresiwn Archifydd a Swydd Treftadaeth y Sir, sy’n cadw’r hawl i wrthod ceisiadau.

Caiff aelodau Cyfeillion Archifau Clwyd y chwiliad safonol dechreuol am hanner awr am ddim. Gellir ymaelodi â’r Cyfeillion am dâl aelodaeth o £10.00 y flwyddyn. Cliciwch ar y linc i'r chwith am fwy o wybodaeth.

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0