| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Manylion Cysylltu'r Gwasanaeth
Cyfeiriad:
Cyngor a Democratiaeth
Cyngor Sir Ddinbych
Neuadd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
LL15 1YN
Teleffon:
01824 706000
Ffacs:
01824 706293
Ebost
Gwnewch O Arlein
Cyngor a Democratiaeth
Cyngor a Democratiaeth

Croeso i Dudalen Gartref y Cyngor a Democratiaeth

Un o’r prif ffyrdd o ddylanwadu ar bolisi a gwasanaethau’r Cyngor yw drwy eich cynrychiolwyr a etholwyd yn ddemocrataidd – eich Cynghorwyr. Mae’r Cynghorwyr yno i gynrychioli pawb yn eu cymunedau, nid y rhai a bleidleisiodd drostynt yn unig. Gall eich Cynghorydd ddelio ag unrhyw broblemau allai fod gennych ynghylch gwasanaethau’r Cyngor a siarad gyda’r Cyngor ar eich rhan.

Ar y tudalennau hyn, medrwch gael gwybodaeth ar eich Cynghorwyr lleol, manylion amrywiol Bwyllgorau'r Cyngor a chael darllen rhaglenni, papurau a chofnodion y Cyngor.

Cynrychiolir Cyngor Sir Ddinbych gan 47 o Gynghorwyr, pob un yn cael ei ethol am gyfnod o 4 blynedd. Mae 30 rhanbarth etholiadol lle mae hyd at dri Chynghorydd yn cynrychioli'r ardal honno, yn dibynnu ar faint y rhanbarth.

Mae gan Gyngor llawn Sir Ddinbych, lle mae'r 47 Cynghorydd yn cyfarfod fel un corff, yr hawl i gymryd penderfyniadau allweddol. Mae'r pwerau hyn, fel y pennwyd yng Nghyfansoddiad y Cyngor, yn cynrychioli cymeradwyo Cyllideb gyffredinol y Cyngor a phennu lefel Treth y Cyngor sydd i'w chodi ar gyfer y Sir.

Mae'r Cyngor hefyd wedi rhoi pwerau i gorff Gweithredol a elwir yn Gabinet. I reoli'r trefniadau Gweithredol hyn, mae'r Cyngor yn penodi Arweinydd, sydd yna'n penodi hyd at 9 Aelod Cabinet i wasanaethu'r Cyngor ar gyfer meysydd portffolio unigol (meysydd gwasanaeth). Caiff y Cabinet gymryd penderfyniadau naill ai gyda'i gilydd yn ystod cyfarfodydd y Cabinet neu yn unigol mewn perthynas â materion sy'n effeithio eu portffolio hwy trwy gyfrwng Penderfyniad Dirprwyedig.

Mae'r Cyngor hefyd yn gweithredu pedwar Pwyllgor Craffu. Mae ganddynt amrywiol rolau a chyfrifoldebau gan gynnwys sicrhau bod y Cabinet ac Aelodau Pwyllgor unigol yn atebol am eu penderfyniadau.

Mae Cynghorwyr hefyd yn gwasanaethu ar nifer o Bwyllgorau pwysig eraill, gan gynnwys Pwyllgorau rheoleiddio megis Cynllunio a Thrwyddedu. Mae'r Pwyllgorau hyn yn ystyried ceisiadau penodol i'r Cyngor gan gynnwys ceisiadau am ganiatâd cynllunio neu geisiadau am eiddo trwyddedig.

Os ydych angen neu eisiau unrhyw wybodaeth bellach ar unrhyw fater neu wasanaeth y Cyngor, peidiwch â phetruso i gysylltu naill ai â'ch Cynghorydd lleol neu Aelod Cabinet y Cyngor gyda chyfrifoldeb arbennig am y maes lle mae gennych ddiddordeb.

Mae gwybodaeth ar gael hefyd mewn perthynas â chyrff etholedig eraill, gan gynnwys Cynghorau Tref a Chymuned ac aelodau lleol Llywodraeth Cynulliad Cymru, day Dy'r Senedd a Senedd Ewrop.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0