Oriau Agor
LLUN AR GAU
MAWRTH 9.30 - 16.30
MERCHER 9.30 - 16.30
IAU 9.30 - 16.30
GWENER 9.30 - 16.30
Archebion olaf am ddogfennau yw 11.45yb a 4.00yp
Ni chaiff unrhyw ddogfennau eu cynhyrchu rhwng 12.00yp a 2.00yp oni bai eu bod wedi eu harchebu cyn 11.45yb.
Paratoi am eich ymweliad
Ein lleoliad yw:
Archifdy Sir Ddinbych
46 Stryd Clwyd
Rhuthun
Sir Ddinbych
LL15 1HP
Ffôn: 01824 708250
Ffacs: 01824 708222
e-bost: archifau@sirddinbych.gov.uk
Cliciwch ar y cyswllt ar y chwith am fap. Mae parcio ar y safle ar gael ar gyfer gyrrwyr anabl yn unig. Mae parcio talu ac arddangos ar gael ychydig funudau o gerdded i ffwrdd ym maes parcio Cae Ddol neu faes parcio Ffordd y Parc.
Caiff unrhyw un ddefnyddio’r archifdy am ddim. Nid yw apwyntiad yn angenrheidiol bob amser ond os ydych yn dod o bellder neu eisiau bwcio periant darllen meicroffilm neu gyfrifiadur o flaen llaw (gweler isod) cysylltwch â ni i wneud y trefniadau.
Bydd angen i chi logi darllenydd meicroffilm i weld cofnodion megis cyfrifiadau 1841-91, cofrestri plwyf holl ardal yr hen sir Clwyd, papurau newydd a’r mynegai i gofrestraeth sifil genedigaethau, priodasau a marwolaeth yng Nghymru a Lloegr, 1837-65. Byddai'n doeth hefyd i drefnu o flaen llaw os oes angen cyfrifiadur ( gan gynnwys mynediad am ddim i safle Ancestry.com).
Mae’n ofynnol cael tocyn darllenydd (CARN - County Archive Research Network) i gael gweld dogfennau gwreiddiol. Os nad oes gennych docyn eisoes bydd angen i chi ddod â thystiolaeth o pwy ydych chi sy’n dangos eich cyfeiriad a llofnod (mae trwydded yrru yn ddelfrydol). Hefyd dylech gofio dod â phapur a phensil gyda chi i wneud nodiadau – ni chaniateir beiros neu binnau ysgrifennu o unrhyw fath. Mae’n bosibl cael llungopi neu feicroprint o’r rhan fwyaf o ddogfennau, un ai yn ystod eich ymweliad neu i’w hanfon atoch drwy’r post yn ddiweddarach, yn dibynnu ar faint o staff sy’n gweithio a’u hymrwymiadau amser ar y diwrnod. Mae’r staff yn fodlon ateb ymholiadau hefyd, a chynnig unrhyw gyngor neu gymorth gyda’ch gwaith ymchwil.


