| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cyfeillion Archifau Clwyd
Maen Achwyfan

CYFEILLION ARCHIFAU CLWYD
Registered Charity No: 1047418 Rhif Elusen Gofrestig

 
Sefydlwyd y Cyfeillion yn 1994 i hyrwyddo a chefnogi gwaith archifdai gogledd ddwyrain Cymru. Ei brif weithgareddau yw :-

1. Codi arian i brynu archifau neu offer i archifdai.
2. Rhoi cymorth gwirfoddol i wahanol brosiectau sydd mewn archifdai .
3. Cyhoeddi Hanesydd Bro Clwyd / Clwyd Historian.
4. Diwrnod blynyddol ar thema gysylltiedig ag archifau.

Bydd y gweithgareddau'n cynnwys:-

1. Caws a gwin (fel arfer mewn plasdŷ yn y wlad).
2. Cyfarfodydd mewn gwahanol lefydd yn y fro i glywed darlithoedd perthynol i archifau.
3. Ymweliadau i archifdai a llyfrgelloedd yng Nghymru ac yng Ngogledd Orllewin Lloegr .

Cyfarfodydd: yn ddiweddar cafwyd darlithoedd ar archifau llafar, cofnodion llys Chwarter, archifau gwleidyddol, a datblygiadau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ysgolion un-dydd: Trefnwyd y rhain eisoes ar themau Llongau ar yr Afon Ddyfrdwy; Amddiffyn y Deyrnas: Gwirfoddolwyr Gogledd Cymru 1870-1945; a 'Clwyd a'i Haneswyr'.

Hanesydd Bro Clwyd / The Clwyd Historian: Cyfnodolyn sydd am ddim i Aelodau. Mae'n cynnwys erthyglau ar bynciau amrywiol perthynol i hanes lleol ac archifau ac adroddiadau ar ddatblygiadau diweddar mewn archifdai.

Aelodaeth: Y tanysgrifiad blynyddol yw £10. Anfonwch eich taliad at y Trysorydd:

Ysgubor Isa,
Llanfair Dyffryn Clwyd,
Rhuthun,
Sir Ddinbych.
LL15 2UN

Anfonwch bob ymholiad at yr Ysgrifennydd Mygedol, Roy Coppack, Bryn Gwyn, 2, Rhodfa Anwyl, Rhuddlan, Sir Ddinbych, LL18 2SQ

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0