Gwnaed yr arolwg stoc diwethaf ar gyfer ardal Sir Ddinbych yn 1995 dan Awdurdod Sirol Clwyd gynt. Mae’r broses yn golygu cymryd golwg ciplun ar lety’r Sir, yn amrywio o leoedd gwely a brecwast bychain i westai corfforaethol mawr yn ogystal â chynnwys fflatiau gwyliau bach hunangynhwysol a meysydd carafanau mawr.
O ymweld â’r safleoedd hyn, gallwn wedyn lunio darlun cywir o’r busnesau hynny sy’n dal i fasnachu, y rheini nad ydynt bellach yn masnachu a’r rheini sydd wedi ehangu ers yr arolwg diwethaf. Mae holiadur llafar cyfrinachol byr yn caniatáu inni ganfod cyfanswm nifer y lleoedd gwlâu ym mhob busnes. Unwaith y mae’r arolwg wedi’i gwblhau, mae hynny’n rhoi cronfa ddata gywir inni a ffigur y stoc llety a’r stoc lleoedd gwlâu ar gyfer y Sir gyfan. Caiff y ffigurau hyn eu defnyddio wedyn mewn prosiectau a cheisiadau gan y Sir.
Mae’r Arolwg mewn dwy ran:-
Mae’r Arolwg Stryd yn golygu ymweld â holl sefydliadau llety Sir Ddinbych a chynnal holiadur byr gyda’r perchennog / rheolwr.
Mae’r Arolwg Desg yn digwydd ar ôl yr Arolwg Stryd ac mae’n groeswiriad o’r wybodaeth a gafwyd yn yr arolwg stryd.
Rheolir y prosiect drwyddo draw gan:
Lucy Burke – Swyddog Twristiaeth
(01824) 708278
Rheolir yr agwedd weithredol gan:
Ian Olson – Swyddog Systemau Twristiaeth (01824) 708235

Rhoi adborth ar y tudalen hon