| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Manylion Cysylltu'r Gwasanaeth
Twristiaeth yr Arfordir
Traeth Rhyl

Mae pawb wrth eu bodd ar lan y môr....’does dim yn union fel gwyliau glan môr traddodiadol- yr awel hallt, cri’r gwylanod a chrens y tywod dan eich traed.
Yn Y Rhyl a Phrestatyn, mae gennym yr holl gynhwysion hynny a mwy i gynnig profiad gwirioneddol gofiadwy. Dengys yr ystadegau ein bod, dros y 30 mlynedd ddiwethaf, wedi mwynhau mwy o haul a thymheredd uwch na’r cyfartaledd Prydeinig.
Mae ein traethau arobryn nid yn unig yn lân a thywodlyd- maent hefyd yn ddiogel i blant. Ac mae yna gymaint i’w weld a’i wneud i ddifyrru’r teulu cyfan, drwy’r dydd a gyda’r nos, beth bynnag fo’r tywydd.
Ond peidiwch â chymryd ein gair ni am y peth, cymerwch olwg at ein taflen ‘Funtime’. Ar gyfer y rhifyn hwn o ‘Funtime’, bu inni anfon gohebydd a ffotograffydd i dreulio diwrnod gyda phobl ar wyliau yn Y Rhyl a Phrestatyn. Pobl go iawn gyda barn go iawn ynghylch beth sy’n gwneud egwyl glan môr gwych.
Cewch wybod beth oedd ganddynt i’w ddweud...i gael copi o ‘Funtime’ cysylltwch â Chanolfan Groeso Y Rhyl....
bydd y staff yno yn hapus i anfon copi am ddim neu mewngofnodwch ar www.rhyl-prestatyn.co.uk am gopi pdf.
 

Canolfan Groeso Y Rhyl
Y Pentref
Rhodfa’r Gorllewin
Y Rhyl
LL18 1HZ
Ffôn: 01745 344515/355068
Ebost: rhyl.tic@denbighshire.gov.uk
 

 
 
Camera we y Skytower yn Y Rhyl

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0