| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Y Rhyl yn Symud Ymlaen
Y Rhyl yn Symud Ymlaen

Mae strategaeth fawr i helpu adfywio'r Rhyl a'i chymuned wedi ei chyflwyno i Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru, Andrew Davies. Mae'r strategaeth yn amlinellu deg project un contractwr, pob un gydag arwyddocâd strategol, a fydd, gyda'i gilydd, yn helpu trawsnewid dyfodol y Rhyl a darparu dyfodol cadarn a ffyniannus i'r dref, ei busnesau a'r gymuned.

Ar ôl cyfarfod gyda'r Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd, yr Aelod Seneddol, Aelod Cynulliad a swyddogion eraill, cafwyd gwahoddiad i gyflwyno dogfen yn pennu Fframwaith Strategol ar gyfer y Rhyl ac archwilio sut gellid ei gefnogi. Mae'r ddogfen hon wedi dod o ymdrech gydgysylltiedig gan chwaraewyr lleol allweddol i ymateb i'r gwahoddiad.

Cliciwch ar y cysylltau i ddysgu mwy am y strategaeth, y cynllun adfywio a'r datganiadau i'r wasg, Coleg Cymunedol y Rhyl, cynnydd Harbwr Foryd a'r Parc Drifft.

Manylion Cyswllt:   Swyddog Y Rhyl yn Symud Ymlaen - 01824 708017

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0