| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk


Cinio am ddim

Pryd o fwyd ganol dydd, am bris penodol, ym mhob ysgol gynradd ac ysgol arbennig. Darperir dewis lle bo modd.  Darpariaeth o bryd bwyd canol dydd ym mhob ysgol uwchradd ar sail caffeteria gyda phris unigol i’r eitemau.

Fe gewch Ginio Ysgol am ddim i’ch plentyn/plant yn unig os ydych yn cael:

  • Ategiad Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith (wedi’i seilio ar incwm)
  • Credyd Gwarant
  • Chredyd Treth Plant (dim Gredyd Treth Gwaith) cyn belled bod eich incwm yn is na £15,575 y flwyddyn (07/04/08)

  

Mae angen cwblhau ffurflen gais. Ceir manylion am y drefn o hawlio prydau ysgol am ddim gan Bennaeth yr ysgol ac fe drinnir pob ymholiad fel mater cyfrinachol.

Mae bwydlenni’r Gwasanaeth Prydau Bwyd yn seiliedig ar ganllawiau maeth NACNE (National Advisory Committee Report on Nutrition Education), ond ar yr un pryd maent yn cynnig bwydydd poblogaidd. Mae amrywiaeth yn y fwydlen, ac mae rheolaeth ar y defnydd o’r bwydydd poblogaidd. Rhoddir dewis o bryd bwyd 'iach' bob amser.

Mae cinio ysgol ar gael i bob disgybl ar wahân i ddisgyblion meithrin rhan amser. Bydd cyfleusterau ar gael ym mhob ysgol gynradd ac ysgol uwchradd i blant sy’n dymuno dod â’u cinio eu hunain.

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0