| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Gwasanaethau Oedolion

Gwasanaethau Oedolion
Weithiau mae pobl angen help gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Weithiau dim ond am gyfnod byr, tra bo eraill angen help trwy gydol eu bywydau.
 
Pan fyddwch yn cysylltu â ni, medrwch ganfod:

  • Pwy sydd â hawl i'n gwasanaethau 
  • Pa safonau medrwch eu disgwyl gennym ni, a
  • Sut i wneud sylwadau neu gwyno

Yn 2007 a 2008 rydym yn bwriadu gwneud y canlynol:


1. Gwella sut rydym yn asesu anghenion pobl, eu helpu a gwirio'n rheolaidd bod yr help hwn yn diwallu eu hanghenion.

2. Sicrhau bod yr help rydym yn ei roddi o safon uchel ac yn rhoi canlyniadau positif i bobl.
3. Datblygu gwasanaethau newydd (neu wella rhai presennol) megis Tai Gofal Ychwanegol, Tele-Ofal, Gofal Canolraddol, Storfa Offer Cymunedol, Partneriaeth Therapi Galwedigaethol, Gwasanaeth Maes Pendant a Rhwydwaith Dolen Allwedd arall. Byddwn yn creu llawer o'r gwasanaethau hyn gyda help cydweithwyr iechyd.
4. Cyndi's nifer o bobl sy'n derbyn Taliadau Uniongyrchol fel bod mwy o bobl yn medru rheoli eu gofal eu hunain. 
5. Gwella ein tîm dyletswyddau argyfwng (y tu allan i oriau swyddfa) gyda help staff Sir y Fflint a Wrecsam.
6. Sicrhau bod pobl ifanc y mae eu gofal yn symud o Wasanaethau Plant i Oedolion yn cael trosglwyddiad llyfn.
7. Datblygu cynlluniau (megis yr ail Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles) a gweithredu camau eleni dan y Strategaeth Pobl Hŷn a Her Iechyd Sir Ddinbych.
8. Gwella sut rydym yn darparu gwasanaethau gyda chyrff gwirfoddol a sut rydym yn gwirio safonau’r gwasanaethau hynny.
9. Sicrhau ein bod yn gwella sut rydym yn trefnu a thalu am wasanaethau gan gynnwys rhai ar gyfer gofalwyr. Yn benodol byddwn yn ymuno ag iechyd i greu dulliau newydd i drefnu a thalu am wasanaethau ar gyfer pobl hyn a phobl gyda phroblemau Iechyd Meddwl.

Beth sy'n digwydd i'r wybodaeth sydd gennych arnaf?

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ddefnyddiwr cofrestredig dan y Ddeddf Amddiffyn Data. Mae angen i ni  gadw a phrosesu gwybodaeth am bobl dan ganllawiau llym. Bydd unrhyw wybodaeth  sydd gennym amdanoch yn cael ei thrin yn gyfrinachol a bydd eich manylion yn cael eu cadw yn ddiogel. Mae canllawiau sydd yn rhaid eu dilyn gan y Gwasanaethau Cymdeithasol os bydd angen rhannu gwybodaeth am bobl.

Adroddiad sicrhau safon

Fel adran rydym yn gofyn i ddefnyddwyr gwasanaethau pa mor fodlon oeddent hefo'r gwasanaethau a gawsant. Gwneir hyn trwy arolygon post neu gyfweliad un i un, fel arfer mewn arolwg blynyddol o wasanaethau. Gofynnwn gwestiynau am ba mor dda y cyrhaeddwn ein safonau, canlyniad yn codi o'r gwasanaethau a ddarperir a'r gwahaniaeth a wna'r gwasanaethau hynny i annibyniaeth y person a'i safon byw. Mae'r tîm sicrhau safon yn llunio'r wybodaeth fel adroddiad a ddefnyddir i greu gwelliannau a rhoi gwybodaeth i'r Strategaeth Gomisiynu a safon Gwasanaethau Oedolion. Mae'r adroddiadau canlynol ar gael ar hyn o bryd: 

  • Residential  / Nursing Care.
  • Non Residential services (Home Care, Day Care and Meals on Wheels).
  • Mental Health Day Services.
  • Disability Resource Team.
  • Learning Disabilities User's Survey.
  • Learning Disability Carer's Survey.
  • Annual Generic Survey across all Adult Service Users.

Am gopïau o'r adroddiadau hyn, cysylltwch neu ffoniwch :

Tîm sicrhau safon
Ty Nant
Ffordd Nant Hall
Prestatyn
LL19 9LG

Rhif ffôn: 01824 706504

Y Safonau y gallwch eu disgwyl 

Mae'r adran yma yn egluro y safonau y gellwch eu disgwyl pan y derbyniwch wasanaethau gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae’r wybodaeth yma ar gael mewn ffurflen, print bras, tap audio a Braille, oddiwrth y Cynorthwy-ydd Cyfathrebu, Brighton Road. 

Cwrteisi & Pharch-

Gallwch ddisgwyl gael eich trin gyda chwrteisi a pharch. Golyga hyn :

  • dylech wybod enw yr un sy’n siarad hefo chi
  • dylech ddisgwyl cael parch i’ch cred ddiwylliannol a chrefyddol
  • dylech gael eich galw yn ôl eich teitl os na fyddwch yn gofyn i ni beidio.

Preifatrwydd A Cyfrinachedd -
Gallwch ddisgwyl i wybodaeth amdanoch gael ei drin yn gyfrinachol. Golyga hynny :

  • Bydd staff yn trafod eich anghenion gyda phobl rydych yn eu nabod 
  • Os byddwch yn gwneud cwyn dim ond y staff dan sylw fydd yn gwybod y manylion.

Gwybodaeth -
Dylech ddisgwyl cael taflenni fydd yn egluro’r gwasanaeth a dderbyniwch neu allwch ei dderbyn. Gall y rhain gynnwys :

“Byddem yn hoffi clwyed eich barn ar y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu”
“Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion yn Sir Ddinbych - pwy sy’n gallu eu derbyn a pha safonau i’w disgwyl.”
“Pecyn Gwybodaeth Gyrfau”.
“Cyfeirlyfr Gofal Sir Ddinbych”.   

Gallwch ddisgwyl gwybodaeth am ein polisi codi tâl os derbyniwch wasanaeth y bydd raid talu amdano.

Dylech hefyd gael :

cyfle i gael cyngor sylfaenol am y budd-daliadau nawdd cymdeithasol y gallwch eu hawlio.

Os cewch eich asesu fel bod angen gwasanaeth gallwch ddisgwyl :

  • copi o’ch asesiad os gofynnwch amdano
  • copi o’ch Cynllun Gofal 
  • enw’r person sy’n gyfrifol am eich achos a dyddiad eich arolwg nesaf 
  • amcan gyfrif o’ch gwasanaethau (os codir tâl arnoch) a chyfrifiad ysgrifenedig.

Cyfathrebu -
Dylech ddisgwyl cyfathrebu llawn gyda staff y Gyfarwyddiaeth Gwasasanaethau Cymdeithasol. Gallwch ddisgwyl :

  • gallu cyfathrebu yn yr iaith o’ch dewis, dylai hyn gynnwys o leiaf Cymraeg, Saesneg, a iaith y byddar yn ystod eich aesiad a phan fyddwch yn  derbyn eich gwasanaethau. Gwneir pob ymdrech i gyfathrebu mewn ieithoedd eraill os gofynnir.
  • gallu siarad gyda’r person sy’n gyfrifol am eich achos ac os na fydd hyn yn bosibl dylech adael neges a dylech gael ateb i’ch galwad 
  • mewn argyfwng, a thu allan i oriau swyddfa, gallu siarad gyda Gweithiwr Cymdeithasol o’r Tim Dyletswydd Argyfwng.

Ymglymiad a Chymryd Rhan -
Dylech ddisgwyl :

cymryd rhan lawn yn trafod y gwasanaethau fyddwch yn eu derbyn 
os oes gennych ofalwr, gofynnir iddo ef / iddi hi am eu barn a chynnig asesiad ar wahan
cadw’r nifer o bobl sy’n gweithio ar eich achos i’r lleiafswm 
os bydd angen cyfarfod arall yna trafodir dyddiad y cyfarfod, a chytuno arno gyda chi.

Staff -
Dylech ddisgwyl i’r staff sy’n asesu eich anghenion :

  • ddangos eu cerdyn adnabod i chi
  • fod yn rhywun profiadol a / neu gymwys i’r gwaith
  • fod yn derbyn cymorth a hyfforddiant yn rheolaidd

Amser ymateb -
Gallwch ddisgwyl :

  • i ni gysylltu â chi o fewn 5 diwrnod gwaith i drefnu asesiad o’ch anghenion - o fewn 1 diwrnod gwaith os bydd yn argyfwng 
  • ateb eich galwad ffôn o fewn 1 diwrnod gwaith 
  • ateb eich llythyrau o fewn 10 diwrnod gwaith 
  • os byddwch yn gwneud cwyn byddwn yncysylltu â chwi o fewn 5 diwrnod gwaith i adael i chi wybod sut y trinir eich cwyn  

Os asesir eich bod angen gwasanaeth :

  • dylai eich gwasanaethau ddechrau ar yr adeg y cytunwyd gyda chi 
  • dylech dderbyn Cynllun Gofal o fewn 10 diwrnod gwaith o dechrau eich gwasanaethau
  • anfonir datganiad ysgrifenedig atoch i ddweud a fydd gofyn i chi dalu am y gwasanaethau ac os bydd, faint yn union. Anfonir y wybodaeth o fewn 10 niwrnod ar ôl i ni dderbyn y wybodaeth ariannol gywir (am y gwasanaethau yr ydym yn codi tâl amdanynt)
  • caiff eich anghenion a’ch gwasanaethau eu harolygu o leiaf bob blwyddyn. Cynhelir arolygon yn gynt na hynny os bydd angen. 
  • os asesir eich bod angen offer sy’n costio llai na £1000 dylid anfon hyn o fewn 3 wythnos o’ch asesiad.
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0