| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cynllun Prentisiaeth Fodern

Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â Chyngor Sir Ddinbych a symud rhwng Adrannau, gan gael profiad gweinyddol, clerigol a TG gwerthfawr mewn amrywiol adrannau’r Cyngor yn Rhuthun, Y Rhyl, Dinbych a Phrestatyn. Ein nod yw penodi unigolion brwdfrydig a galluog mewn “cynllun corfforaethol”, sydd ag uchelgais ac eisiau cychwyn ar yrfa heriol a gwerth chweil mewn llywodraeth leol. Maent yn cael cyfle, fel rhan o’r hyfforddiant, i weithio tuag at NVQ Lefel 2/3 mewn Gweinyddiaeth. Bydd yr amrywiol ddyletswyddau’n cynnwys:

  • Prosesu geiriau a mewnbynnu data
  • Ymholiadau ffôn
  • Ffeilio, llungopïo a ffacsio
  • Defnyddio amrywiol feddalwedd cyfrifiadurol gan gynnwys Lotus a Microsoft
  • Agor a didoli’r post
  • Cyfarch a chynorthwyo ymwelwyr
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0