| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Profiad gwaith

Hoffwch chi weld sut brofiad yw gweithio i Gyngor Sir Ddinbych?  

Mae lleoliad profiad gwaith ar gael i fyfyrwyr blwyddyn 10 a 12. Gall y rhai sy'n mynychu colegau addysg bellach a phrifysgolion gael wythnos neu ddwy a blwyddyn lawn i is raddedigion.

Mae sawl adran wahanol yn Rhuthun, Dinbych, Prestatyn, Llangollen a'r Rhyl felly bydd swyddfa o'r Cyngor Sir yn agos at ble rydych chwi yn byw.  Yn ogystal â swyddogion yn delio hefo Iechyd yr Amgylchedd, Cynllunio, y Dreth Gyngor - i enwi dim ond ychydig - rydym yn gyfrifol am Ganolfannau Hamdden, Ardaloedd Amwynderau a pharciau Cefn Gwlad. Felly beth bynnag eich diddordeb bydd gennym leoliad gwaith i chi! 

Tra'n ennill profiad gwaith hefo'r Cyngor Sir byddwch yn dysgu sut mae Llywodraeth Leol yn gweithio a sut y gwerir arian y treth dalwr.           
Mae gan y Cyngor Sir Gydgordiwr Profiad Gwaith fydd yn ceisio eich lleoli yn y gwaith a ddymunwch. Bydd ble byddwch yn mynd yn dibynnu ar llwyth baich adran benodol ar yr adeg pan fyddwch eisiau lleoliad gwaith a faint o aelodau staff addas sydd yno i'ch helpu.

Gallwch ennill profiad o amgylchedd gwaith go iawn fydd yn eich  helpu i gael y sgiliau a'r ddealltwriaeth sydd ei angen heddiw ym myd gwaith. 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0