| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Gwasanaethau Personél Gyfarwyddiaeth

Caiff Gwasanaethau Personél a Hyfforddiant yng Nghyngor Sir Ddinbych eu darparu a’u cyflwyno ar lefel gorfforaethol a datganoledig.  Ar lefel Cyfarwyddiaeth, swyddogaeth personél a hyfforddiant cyfarwyddiaeth yw:-

 RÔL PERSONEL Y GYFARWYDDIAETH

  • Darparu’r prif fan cyswllt wrth gynghori a chynorthwyo Cyfarwyddwyr a rheolwyr ynglyn â materion personél.
  • Gweinyddu trefnau personél corfforaethol/cyfarwyddiaeth ar lefel weithredol cyfarwyddiaeth.
  • Cynghori’r Prif Swyddog a’r Tîm Rheoli Cyfarwyddiaeth ynglyn â pholisïau a strategaethau personél cyfarwyddiaeth.
  • Hyfforddi rheolwyr yn eu swyddogaeth fel rheolwyr staff cyfarwyddiaeth/adrannol.
  • Gweithredu a gorfodi polisïau personél corfforaethol.
  • Gwrthwynebu arferion drwg.
  • Cyfrannu’n weithredol at ddatblygu polisïau personél strategol newydd.

RÔL HYFFORDDWYR ADRANNOL

  • Cynorthwyo rheolwyr i enwi anghenion hyfforddiant y staff a rhoi cyngor iddynt ynglyn â’r modd gorau i ddiwallu’r anghenion hynny.
  • Llunio rhaglenni i ddiwallu anghenion adrannol penodol.
  • Cyflwyno/cydlynu rhaglenni yn benodol ar gyfer adrannau.
  • Cyflwyno/cydlynu rhaglenni sgiliau arbenigol.
  • Cydweithredu â Hyfforddiant corfforaethol a swyddogion hyfforddiant eraill.
  • Rhoi cynhaliaeth i staff sy’n astudio am gymwysterau e.e. CGC.
  • Rhagbaratoi staff mewn perthynas â pholisïau cyfarwyddiaethau/adrannol.
  • Ffurfio polisïau hyfforddiant cyfarwyddiaethau/ adrannol ac adolygu a gwerthuso hyfforddiant yn eu hadran.

 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0