| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Iechyd Galwedigaethol/Iechyd & Diogelwch

O fewn Personél Canolog ceir hefyd Uned Iechyd a Diogelwch ac Uned Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol.  Bydd Iechyd  & Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol yn darparu’r gwasanaethau canlynol:-


Iechyd Galwedigaethol
Rhif Cyswllt 01824 712522

  • Gwella ymwybyddiaeth a mynediad i Wasanaethau Iechyd Galwedigaethol, i Reolwyr ac Unigolion.
  • Lleihau salwch a achosir gan weithio a goresgyn anawsterau gwaith a achosir gan salwch.
  • Darparu cyngor a chyfarwyddyd ar faterion Iechyd Galwedigaethol a hyrwyddo arfer orau.
    Ffurfio a datblygu polisïau Iechyd Galwedigaethol perthnasol a chydlynedig.
  • Cyflwyno ystod o wasanaethau meddygol gan gynnwys sgrinio amryw grwpiau o weithwyr y cyngor, e.e. Cyn-cyflogaeth, gyrwyr a phersonél patrôl croesi ysgolion.
  • Darparu gwasanaeth cynghori cyfrinachol a chynhaliaeth seicolegol i unigolion.
  • Darparu gwasanaeth atgyfeirio i’r Meddyg Galwedigaethol Ymgynghorol.
  • Adnabod anghenion hyfforddiant a hwyluso i ddiwallu’r angen hwn.
  • Datblygu a gweinyddu trefnau monitro.

Iechyd & Diogelwch
Rhif Cyswllt 01824 712582

  • Sicrhau bod yr Awdurdod yn meddu ar strategaeth fframwaith Iechyd & Diogelwch sy’n gynhwysfawr ac effeithiol.
  • Cynghori Tîm Rheoli a Chyfarwyddiaethau’r Cyngor Sir ynglyn â chydymffurfio â deddfwriaeth Iechyd & Diogelwch a hyrwyddo arfer orau.
  • Furfio a datblygu polisïau Iechyd & Diogelwch perthnasol a chydlynedig.
    Monitro a gwneud ymchwiliad i ddigwyddiadau, tueddiadau ac arferion gyda golwg ar gymryd camau gweithredu addas.
  • Rhoi cyngor ynglyn ag asesu peryglon a gweithredu systemau, trefnau, offer diogel ac ati.
  • Adnabod anghenion hyfforddiant Iechyd & Diogelwch a hwyluso i ddiwallu’r angen hwn.
  • Ymgymryd â monitro amgylcheddol a rhoi cyngor yn gyfatebol i hynny
  • Darparu mecanwaith ar gyfer rhannu arfer a phrofiadau Iechyd & Diogelwch ledled y Cyngor.
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0