Llefrith Ysgol am Ddim
Mae gan yr holl blant hyd at Gyfnod Allweddol 1 (7 oed ac iau) yr hawl i lefrith am ddim yn ystod eu hegwyl ganol bore. Y ddarpariaeth ddyddiol yw traean o beint o lefrith hanner-sgim yn cael ei weini mewn cartonau gyda gwelltyn.
Os oes gan eich plentyn ofynion dietegol arbennig (h.y. fegan neu alergedd) cysylltwch gyda ni i'n hysbysu pa ddiod amgen sy'n ofynnol ac fe wnawn ni drefnu hyn gyda'r ysgol.
Os nad yw eich ysgol chi yn cynnig llefrith am ddim cysylltwch gyda ni ac fe wnawn ni ymchwilio.


Rhoi adborth ar y tudalen hon