CASTELL DINBYCH Mae olion trawiadol Castell Dinbych, sydd ar gopa bryn serth uwchben y dref, yn mwynhau golygfeydd eang o Ddyffryn a Bryniau Clwyd. Adeiladwyd castell Dinbych gan Henry de Lacy, un o brif gadlywyddion y brenin, fel rhan o ymgyrchoedd Edward Iaf yn y 13eg ganrif yn erbyn y Cywrmry.
Nid dyma'r cadarnle cyntaf a adeiladwyd ar y safle strategol hwn: adeiladwyd y castell dros gadarnle Dafydd ap Gruffudd, brawd Llywelyn, yr arweinydd Cymreig a drechwyd gan Edward ym 1282, fel petai er mwyn pwysleisio gorychafiaeth y Saeson. Cafodd Dafydd ei ddal a'i ladd ym 1283.
Creodd y gwaith o adeiladu Dinbych 'newydd' o 1282 ymlaen (a gafodd wared ar yr holl olion o amddiffynfeydd y Cymry) nid yn unig gastell, ond bwrdeistref Seisnig newydd wedi'i ddiogelu gan furiau tref. Ymyrrwyd ar y gwaith adeiladu, a wnaed mewn dau gam, gan wrthryfel ym 1294 pan gipiwyd y castell am gyfnod gan y Cymry. Gellir adnabod y gwaith diweddarach gyda'r cerrig gwahanol liwiau, murlenni mwy trwchus a thyrau onglog fel y rhai a geir yng Nghaernarfon, yn hawdd. Nodwedd wychaf y castell yw ei borthdy mawr gyda'r dri thwr trawiadol, sy'n dangos arddull amlwg y Meistr James o St George, yr athrylith pensaerniol oedd yn gyfrifol am holl gestyll mawr Edward yng ngogledd Cymru. Hefyd o ddiddordeb arbennig mae muriau'r dref sydd bron 1 km/0.6mllr o hyd. Mae'r rhan
ddwyreiniol, gyda Thwr yr larlles a Thwr y Goblin yn ei amddiffyn, yn arbennig o goeth.
Addangosfa ac amgueddfa ar y safle
- Tywyslyfr ar gael
- Golygfeydd panoramig gwych o leoliad y castell ar ben y bryn
- Mae Giat Burgess a muriau'r dref yn drawiadol
- Nifer o lwybrau deniadol gerllaw yn cynnwys y llwybr drwy'r goedwig o amgylch muriau'r dref hanesyddol
- Crwydrwch dref Dinbych i weld y siopau ac i gael lluniaeth
- Mae llwybr enwog Clawdd Offa yn rhedeg nid nepell o Dinbych
- Dilynwch lwybr Canoloesol Sir Ddinbych
Cliciwch ar 'Gwefan Cadw' am fwy o fanylion


Rhoi adborth ar y tudalen hon