Un rhan o Uned Gwasanaeth Cynllunio y Cyngor Sir yw'r Tîm Cadwraeth. Mae'n ymdrin â threftadaeth adeiledig y Sir, megis adeiladau rhestredig, ardaloedd cadwraeth a pharciau a gerddi hanesyddol. Mae'r dreftadaeth yn ased gwerthfawr ac mae'r Tîm Cadwraeth yno i helpu i sicrhau y caiff ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau i ddod ond hefyd i helpu wrth ddefnyddio'r dreftadaeth i wneud lles i'r economi leol.
Mae'r tîm yn falch o roi cyngor ar unrhyw fater sy'n ymwneud â'r dreftadaeth adeiledig pa un ai'n gysylltiedig â'r mesurau rheoli ychwanegol a all fod mewn bod, beth sydd yn dderbyniol a heb fod yn dderbyniol a pha grantiau a all fod ar gael. Mae'r dreftadaeth adeiledig yn gwneud cyfraniad pwysig at gymeriad lleol ardal. Dim ond drwy ei diogelu y gallwn fod yn siwr nad yw'r arwahanrwydd lleol sy'n gwahaniaethu un ardal oddi wrth y llall yn cael ei wanhau neu'i golli.
Mae tîm Cadwraeth yn sefydlog yn Trem Clwyd, Canol-y-Dre, Rhuthun, LL15 1QA.
Mae'r staff ar gael, fel y canlynol:-
| Pensaer Cadwraeth | 01824 708060 |
| Rheolwr Prosiect, Cynllun Treflunio Treftadaeth | 01824 708076 |
| Swyddog Prosiect, Cynllun Treflunio Treftadaeth | 01824 708074 |

Rhoi adborth ar y tudalen hon