Menter Treftadaeth Treflunio – beth ydy hwn?
Yn un o fentrau Cronfa Treftadaeth y Loteri , mae’r MTT yn dyfarnu grantiau sy’n helpu cymunedau i adfywio rhannau hanesyddol eu trefi a’u dinasoedd.
Er mwyn bod yn gymwys i gael cymorth, mae’n rhaid i’ch prosiect:
- fod o fewn ffiniau’r Fenter Treftadaeth Treflunio a’r Ardal Gadwraeth
- ymwneud ag eiddo o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol, neu o werth treflun sylweddol
- sicrhau gwelliannau amgylcheddol sylweddol
Rhoir blaenoriaeth i brosiectau lle bo angen cynllun gwaith cynhwysfawr i adfer defnydd adeiladau, neu lle bo angen gwaith trwsio sylweddol i sicrhau parhau i ddefnyddio’r adeilad(au) yn y dyfodol.
Yn gyffredinol cynigir cymorth grant ar gyfer gwaith priodol i gyflawni’r isod:
- Gwaith trwsio sylweddol i ffabrig allanol yr adeilad
- Gwaith trwsio cyffredinol i sicrhau oes defnyddiol yr adeilad (ond nid gwaith cynnal a chadw rheolaidd)
- Gwaith trwsio strwythurol mewnol ac allanol
- Adfer manylion pensaernïol coll, yn enwedig lle bo cofnodion archif megis hen ffotograffau yn bodoli i ddangos y nodweddion gwreiddiol
- Ailddefnyddio gwagle gwag neu sy’n cael ei dan-ddefnyddio, cyn belled nad yw hyn wedi’i gynnwys mewn cynllun uwchraddio a thrwsio cyffredinol
- Gwelliannau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â chynllun uwchraddio a thrwsio
- Ffioedd proffesiynol
Gellir cyflwyno ceisiadau gan yr unigolion isod yn unig:
- Rhydd-ddeiliad yr eiddo
- Lesddeiliad sydd â les trwsio llawn, gyda budd yn yr eiddo am o leiaf deng mlynedd o ddyddiad talu’r grant.
Os oes gennych chi ddiddordeb neu os byddwch chi angen rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Thîm Prosiect MTT trwy’r dulliau cysylltu a nodir isod. Os barnir bod eich prosiect yn gymwys, trefnir cyfarfod dechreuol rhyngoch chi ac aelod o’r Tîm Menter Treftadaeth Treflunio i drafod a yw’r gwaith yn gymwys i dderbyn cymorth grant, maint y prosiect, ac egluro am y broses gwneud cais am grant.
| Rheolwr Prosiect | Rhif ffôn: 01824 708076 |
| Swyddog Prosiect | Rhif ffôn: 01824 708074 |
| Swyddog Hyrwyddo a Pherfformiad | Rhif ffôn: 01824 708030 |
| Cyfeiriad: | Cyngor Sir Ddinbych, Trem Clwyd, Canol y Dre, Rhuthun, LL15 1QA |
| Ffacs: 01824 708088 |


Rhoi adborth ar y tudalen hon