| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Proses Archwilio
Sut ydym yn penderfynu beth i’w adolygu?

Mae Pennaeth Archwilio Mewnol yn dadansoddi holl Wasanaethau’r Cyngor drwy ystyried:

  • y risgiau a glustnodwyd gan Reolwyr ac Aelodau etholedig
  • ein profiad o archwiliadau blaenorol a wnaed

Mae Pennaeth Gwasanaethau Archwilio Mewnol yn defnyddio canlyniadau’r dadansoddiad hwn i gynhyrchu cynllun blynyddol o’r gwasanaethau sydd i’w harchwilio. Caiff hwn ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Llywodraeth Gorfforaethol.

Beth y mae arolwg archwilio yn ei olygu?

Cynllunio

  • Caiff prosiectau eu cynllunio cyn inni ddechrau profi er mwyn gwneud defnydd priodol o’n hamser a phenderfynu pa feysydd sydd ag angen edrych arnynt.
  • Byddwn yn darllen canlyniadau profion gwaith archwilio cynharach i’n helpu i ddeall y maes y byddwn yn edrych arno.
  • Byddwn yn cyfarfod â’r cwsmer i sôn am beth fydd yr archwiliad yn ei gynnwys a’r ffordd y byddwn yn cynnal yr arolwg. Gall y cwsmer hefyd godi unrhyw feysydd eraill sy’n peri pryder inni edrych arnynt.

Yn ystod yr archwiliad

  • Byddwn yn cadw golwg ar ein hamser i wneud yn siŵr fod y prosiect yn cael ei gwblhau o fewn yr amser arfaethedig.
  • Byddwn yn dogfennu canlyniadau ein profion yn llawn.
  • Byddwn yn siarad â’r cwsmer ynghylch pynciau posib cyn ysgrifennu ein hadroddiad.

Cyflwyno Adroddiadau

  • Byddwn yn cyfarfod â’r cwsmer i sôn am ein canlyniadau ac unrhyw argymhellion yr ydym ar fin adrodd arnynt.
  • Byddwn yn paratoi adroddiad drafft o’n canlyniadau sydd hefyd yn cynnwys cynllun gweithredu sy’n rhestru’r argymhellion.
  • Yna mae ein rheolwyr yn cynnal arolwg rheoli ansawdd o waith yr archwilwyr a’r adroddiad drafft.
  • Byddwn yn cyflenwi adroddiad drafft i’r cwsmer i’w gytuno. Maent yn cwblhau’r cynllun gweithredu gyda manylion sut y byddant yn gweithredu ein hargymhellion.
  • Unwaith y bydd wedi’i gytuno, gallwn gynhyrchu’r adroddiad terfynol a’i roi i’r swyddogion perthnasol a’r aelodau etholedig.
I bwy ydym yn adrodd?
  • Rheolwyr, Penaethiaid Gwasanaethau a Chyfarwyddwyr Corfforaethol.
  • Pwyllgor Llywodraeth Gorfforaethol a Phwyllgorau Archwilio’r Cyngor.
  • Pwyllgorau perthnasol ein cwsmeriaid allanol.
Beth sy’n digwydd i’n hargymhellion?

Byddwn yn mynd ar drywydd pob un o argymhellion archwilio mewnol i wneud yn siwr eu bod wedi’u rhoi yn eu lle.

Mae adrodd ar archwiliadau dilynol yn debyg i adrodd ar archwiliadau arferol. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r cwsmer wneud sylwadau ar ein canlyniadau cyn inni gyhoeddi’r adroddiad terfynol.

Byddwn yn adrodd i’r Pwyllgor Llywodraeth Gorfforaethol os nad yw argymhelliad wedi’i roi yn ei le erbyn adeg ein trydydd ymweliad dilynol. Gofynnir i’r swyddog cyfrifol fynd i gyfarfod nesaf y Pwyllgor Llywodraeth Gorfforaethol i egluro paham nad yw’r argymhelliad wedi’i weithredu.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0