| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Gyrfa Mewn Archwiliad Mewnol
Archwilio Mewnol yng Nghyngor Sir Ddinbych

Gall gweithio yn y Gwasanaethau Archwilio Mewnol gynnig profiad sy’n amrywiol ac yn rhoi boddhad.

Yn ddiweddar rydym wedi cyflwyno graddfeydd gyrfa i ddatblygu hyfforddedigion drwodd i lefel archwilydd proffesiynol. Byddwn yn dechrau’r hyfforddiant fel arfer gyda chymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT). Ein nod, fodd bynnag, yw cael yr archwilwyr i gyd wedi’u hyfforddi i lefel Diploma Sefydliad yr Archwilwyr Mewnol (PIIA) o leiaf ac, os yn bosibl, i aelodaeth lawn (MIIA).

Rydym yn amcanu at wneud yn siŵr fod yr Adran a’i staff yn cwrdd â safonau archwilio proffesiynol o ran medrusrwydd proffesiynol, cyflawni gwaith archwilio a rheolaeth yr Adran.

Os oes gennych…
  • sgiliau cyfathrebu da
  • y gallu i ysgrifennu adroddiadau trawiadol eu heffaith
  • gallu trefniadol da
  • sgiliau TG rhagorol
  • meddwl miniog a dadansoddol
  • dyhead i gyfrannu at wella gwasanaethau’r Cyngor

...yna fe allai Archwilio Mewnol fod yr yrfa i chi. Pan fydd swyddi gwag yn codi, caiff y rhain eu postio ar adran Swyddi Gwag y wefan hon.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0