Mae Paratoi ar gyfer Argyfyngau gwefan Swyddfa’r Cabinet, yn cynnwys gwybodaeth am baratoi ar gyfer argyfwng (gan gynnwys llifogydd, tân, tywydd gwael, argyfwng trafnidiaeth, nwy’n gollwng neu rybudd am fwyd), yn ogystal â gwybodaeth am y mesurau y mae’r llywodraeth yn eu defnyddio i gynyddu diogelwch y cyhoedd.lawrlwythwch y llyfryn Paratoi ar gyfer Argyfyngau
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y cyswllt uchod i fynd at y wefan
Os ydych yn rhan o unrhyw argyfwng, mae’n bwysig:
- Gwneud yn siŵr bod rhywun wedi ffonio 999 os oes pobl wedi’u hanafu neu os yw bywyd rhywun mewn perygl
- Peidio â rhoi eich hun nac eraill mewn perygl
- Dilyn cyngor y gwasanaethau argyfwng
- Ceisio aros yn ddigynnwrf, meddwl cyn gweithredu a cheisio cysuro eraill
- Chwiliwch am anafiadau – cofiwch ddelio â’ch anafiadau eich hun cyn ceisio helpu eraill
Os nad ydych wedi bod mewn damwain ond os ydych yn agos ati neu’n credu efallai eich bod mewn perygl, yn y rhan fwyaf o achosion, y cyngor yw:
EWCH I MEWN, ARHOSWCH MEWN, GWRANDEWCH AR Y RADIO
I baratoi ar gyfer argyfwng, dylech gymryd amser i gael gwybod
- Ble rydych yn diffodd y cyflenwadau dwr, nwy a thrydan yn eich cartref, a sut mae gwneud hynny
- Y drefn i’ch plant petai argyfwng yn eu hysgol
- Y drefn petai argyfwng yn eich gweithle
- Sut y bydd eich teulu’n cadw mewn cysylltiad â’ch gilydd mewn argyfwng
- A oes gennych gymdogion oedrannus neu fregus a allai fod ag angen eich help
- Sut i wrando ar eich gorsaf radio leol
Rhestr o rifau ffôn defnyddiol, fel eich meddyg, yr ysbyty lleol, perthnasau agos a rhif lleol yr heddlu (Gogledd Cymru 0845-6001001), i’w cadw gyda’r eitemau isod.
I baratoi ar gyfer argyfwng naill ai gartref neu i adael eich cartref, mae’r canlynol yn rhestr o eitemau y gallech eu hystyried.
- Pethau ymolchi, darpariaeth ar gyfer y mislif ac unrhyw feddyginiaeth a geir ar ragnodyn rheolaidd
- Radio sy’n gweithio â batri, gyda batris sbâr
- Tortsh gyda batris sbâr, canhwyllau a matsis
- Blwch Cymorth Cyntaf
- Blancedi a dillad sbâr
- Arian parod a chardiau credyd
- Eich ffôn poced
- Allweddi eich cartref a’ch car
- Dwr mewn poteli
- Bwydydd parod i’w bwyta (e.e. bwyd mewn tun) ac agorwr poteli/tuniau, rhag ofn bod rhaid i chi aros yn eich cartref am nifer o ddyddiau.
- Mewn rhai sefyllfaoedd annhebygol iawn, efallai bydd y gwasanaethau brys yn gofyn i chi adael eich cartref. Os bydd hyn yn digwydd, gadewch mor gyflym ac mor ddigynnwrf â phosib. Ac os oes gennych amser: Diffoddwch y cyflenwadau trydan, nwy a dwr, tynnwch blygiau cyfarpar trydan o’r soced a chlowch bob drws a ffenest.
- Gweler yr eitemau a restrir isod
- Os ydych yn ymadael yn y car, ewch â blancedi a dwr potel, a gwrandewch ar yr orsaf radio leol am gyngor a chyfarwyddiadau.
Pan fyddwch yn cael cyfarwyddyd ei bod yn ddiogel i chi fynd adref, agorwch y ffenestri i gael awyr iach cyn ailgysylltu cyflenwadau nwy, trydan a dwr.
Am gyngor mwy penodol, cliciwch ar y cyswllt i gael y wybodaeth berthnasol


Rhoi adborth ar y tudalen hon