| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Manylion Cysylltu'r Gwasanaeth
Cyfeiriad:
Gorfodi Tai
Ty Russell
Ffordd Churton
Y Rhyl
LL18 3AA
Teleffon:
01824 706449
Ffacs:
01824 708322
Ebost
Gorfodi Tai
Llysiau yn cael ei golchi

Mae’r tîm gorfodi Tai yn gyfrifol am bopeth syn ymwneud â’r sector tai rhent preifat, gan gynnwys Tai Amlfeddiannaeth.

Mae’r tîm yn gweithio tuag at sicrhau safonau Iechyd a Diogelwch llety a rentir yn breifat yn Sir Ddinbych ar gyfer landlordiaid a thenantiaid ac mae ganddo’r hawliau i orfodi’r safonau hyn os nad ydynt yn cael eu cadw.

Cysylltu â'r tîm trwy e-bost

Oherwydd bod y swyddog gorfodi tai allan o'r swyddfa bob hyn a hyn mae system ymholi ar y we ar gael i'r cyhoedd.

Anfonwch unrhyw gwestiwn am letyaeth breifat trwy e-bostio'n uniongyrchol at yr Adran Gorfodi Tai. Ni fydd adrannau eraill o fewn Cyngor Sir Ddinbych yn derbyn ymholiadau a dim ond y Swyddogion Awdurdodedig o'r tîm Gorfodi Tai fydd yn eu gweld.

Golyga hyn bod materion megis tenantiaid yn cael problemau hefo atgyweirio eu cartref neu dirfeddiannwr sy'n boendod neu dirfeddiannwr sy'n methu cael eu tenantiaid i dalu etc. yn cael eu datrys yn gyfrinachol trwy anfon e bost i'r adran.

Os bydd angen (neu os gofynnir) caiff swyddog ei roi ar yr achos neu gŵyn, ac fe all eich ffonio i drefnu archwiliad o'r eiddo neu i drefnu i chi ddod i weld y swyddog Gorfodi Tai i chi gael siarad yn gyfrinachol hefo'r swyddog.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0