| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Manylion Cysylltu'r Gwasanaeth
Cyfeiriad:
Diogelwch Cymunedol
Trem Clwyd
Canol y Dre
Rhuthun
LL15 1QA
Teleffon:
01824 708008
Ffacs:
01824 708039
Ebost
Diogelwch Cymunedol
Logo

Strwythur Partneriaeth Diogelwch Cymunedol yn Sir Ddinbych - Cefndir
Mae Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998 yn golygu bod awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddelio â throsedd ac anhrefn yn effeithiol. Mae hyn wedi datblygu dros y degawd diwethaf - yn y gorffennol roedd angen archwilio trosedd ac anhrefn bob tair blynedd; nawr mae angen asesiad blynyddol o drosedd, anhrefn, ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad arall sy'n andwyo'r amgylchedd. Gyda'n partneriaid (yr Heddlu, Awdurdod Heddlu, Gwasanaeth Tân a'r Bwrdd Iechyd Lleol), mae angen i ni ymgymryd ag asesiad strategol blynyddol. Rhaid i hwn adnabod blaenoriaethau lleol ac ymgynghori â chymunedau lleol ac ymarferwyr diogelwch cymunedol i benderfynu ai'r rhain yw'r blaenoriaethau priodol i Sir Ddinbych. Mae'r cynllun gweithredu nawr wedi ei gyhoeddi. Eleni, mae'r bartneriaeth wedi denu grantiau o ychydig dros £864k i'w helpu i gyflwyno'r strategaeth.
Bydd yr holl gyllid a ddarperir i'r diben hwn yn cael ei ystyried fel 'mewnbwn' sy'n arwain at 'allbwn'. Rhaid i bob allbwn ddylanwadu ar y dangosyddion perfformiad a bennwyd ar gyfer yr awdurdod mewn perthynas â:
 Thargedau Gwasanaeth Cyhoeddus a drafodwyd ac a gytunwyd
 Blaenoriaethau Lleol
 Cynllun Gweithredu ar Gamddefnyddio Sylweddau yng Nghymru
 Strategaeth Troseddau Ieuenctid Cymru Gyfan

Mae Sir Ddinbych wedi sefydlu Adran Diogelwch Cymunedol i sicrhau bod ymrwymiad yr awdurdod i ddiogelwch cymunedol yn parhau i ganolbwyntio ar y pwnc, ac yn addasu i ddelio â newidiadau ynghylch cyflwyniad blaenoriaethau diogelwch cymunedol, yn genedlaethol ac yn lleol.

Cyflwynir Diogelwch Cymunedol trwy gyfrwng cyfres o gyfarfodydd partneriaeth a gweithredoedd sy'n deillio o'r rhain. Mae'r tîm diogelwch cymunedol yn gyfrifol am reoli holl agweddau gwaith partneriaeth, o drefnu cyfarfodydd i fonitro a chyflawni cynlluniau gweithredu. Gwelir cynnydd ar berfformiad y bartneriaeth yn y diweddariadau rheolaidd ar y cynllun gweithredu sydd ar y dudalen hon.

Cyflwynir Diogelwch Cymunedol yn Sir Ddinbych trwy gyfrwng pedair prif drefn: Camddefnyddio Sylweddau, Trais Domestig, Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a'r Cyd-Grŵp Gweithredu (Trosedd ac Ofn Troseddau).
Mae troseddau ieuenctid yn cael eu trin gan Wasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir Ddinbych - gwasanaeth a gefnogir gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Ddinbych., Mae'r Asesiad Strategol a'r cynllun gweithredu sy'n deillio ohono ar gyfer y cyfnod Ebrill 2008 i Fawrth 2009 ar gael ar y dudalen hon.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0