Amserlen ar gyfer ceisiadau cymorth ariannol i Fyfyrwyr 2008 / 2009
Rhaid i chi gadw at y dyddiadau isod os ydych am dderbyn rhandaliad cyntaf eich cymorth ariannol ar ddechrau eich cwrs. Os nad ydych yn llenwi'r ffurflenni yn glir neu'n gyflawni, neu os nad ydych yn darparu'r holl dystiolaeth sy'n ofynnol, bydd hyn yn golygu oedi gydag unrhyw daliad.
25 Ebrill 2008
Ni fydd angen i ymgeiswyr newydd a myfyrwyr sy'n parhau â'u cwrs sy'n dewis yr elfen cymorth ariannol i fyfyrwyr nad yw'n destun prawf modd lenwi'r adran manylion ariannol ar eu ffurflen PN1/PR1.
23 Mai 2008
Rhaid i fyfyrwyr sy'n parhau â'u cwrs ddychwelyd Ffurflen Gais PR1 gyda'r holl adrannau perthnasol wedi'u llenwi, ac os ydynt am gael asesiad llawn dylid darparu'r dogfennau angenrheidiol i gadarnhau'r incwm.
27 Mehefin 2008
Rhaid i ymgeiswyr blwyddyn gyntaf ddychwelyd ffurflen PN1 wedi ei llenwi yn gywir i'r swyddfa hyn, ynghyd â'r holl ddogfennau cefnogi sy'n ofynnol.
Yn arferol ni dderbynnir eich cais os ydych yn ei gyflwyno fwy na 4 mis ar ôl dechrau'r flwyddyn academaidd. Gwnewch yn siwr fod y ffurflen yn cael ei phwyso mewn Swyddfa Bost a'ch bod yn rhoi stampiau digonol ar yr amlen i'w dychwelyd i ni. Dylai ymgeiswy'r blwyddyn gyntaf gofio cynnwys Tystysgrif Geni gwreiddiol neu Basport gyda'u ffurflen gais.
Ar ddechrau eich cwrs
Os ydych wedi cadw at y dyddiadau uchod ac nad yw manylion lleoliad eich cwrs a'r math o gwrs wedi newid dylai y taliad cyntaf o'ch benthyciad gan y Student Loans Company gael ei drosglwyddo i'ch cyfrif banc yn fuan ar ôl i chi gofrestru yn eich coleg/prifysgol. Rhaid i chi fod â chyfrif banc neu gymdeithas adeiladu er mwyn i'r rhandaliadau gael eu trosglwyddo i'r cyfrif yn electronig.
Lwfans Myfyriwr Anabl
Bydd yr Awdurdod yn ymdrin â Lwfans Myfyriwr Anabl a thaliadau cymorth costau teithio cysylltiedig ar wahân, a bydd yn eich cynghori am eich hawl i daliadau a'r dull talu maes o law. Am manylion pellach welwch wefan cyllid myfyrwyr cymru.



Rhoi adborth ar y tudalen hon