| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Pa gyrsiau sy’n gymwys i dderbyn cymorth ariannol?

 Cynigir cymorth ariannol i fyfyrwyr i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr ar gyrsiau penodedig, yn cynnwys yr isod:

Gradd gyntaf mewn Prifysgol neu sefydliad Addysg Uwch yn y Deyrnas Unedig

  • Diploma Addysg Uwch
  • Tystysgrifau Cenedlaethol Uwch penodol
  • Cymwysterau hyfforddiant athrawon dechreuol yn cynnwys Tystysgrif Addysg Ôl-raddedig neu gyrsiau hyfforddiant athrawon dechreuol ôl-raddedig amser llawn neu ran amser eraill 

Gall cyrsiau eraill fod yn gymwys os ydynt wedi eu dynodi fel rhai sy’n gyfatebol i gwrs gradd cyntaf gan yr Adran Addysg a Sgiliau. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch pa gyrsiau sy’n gymwys i dderbyn cymorth ariannol i fyfyrwyr mae croeso i chi gysylltu â ni drwy unrhyw un o’r cyfryngau a nodwyd yn flaenorol. Sicrhewch fod gennych fanylion llawn am y cwrs, yn cynnwys cod y cwrs gan UCAS.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0