Pan wnaethoch anfon eich ffurflen gais gwnaethoch ddarparu manylion am eich dewis cyntaf o ran coleg a chwrs. Pan ydych yn derbyn canlyniadau eich arholiadau Safon Uwch mae’n bosib y byddwch am holi rhai cwestiynau neu ein hysbysu am rai newidiadau.
Isod rhestrir y cwestiynau mwyaf cyffredin, a’u hatebion, a allai ddarparu’r cyngor sydd ei angen arnoch.
Rydw i wedi cael y canlyniadau roedd arnaf eu heisiau ac rydw i’n mynd i’r Coleg / Prifysgol a’r cwrs a nodwyd ar fy ffurflen gais. Beth sydd angen i mi ei wneud yn awr?
Dim, ni fydd angen newid y manylion ar eich ffurflen Hysbysiad Ariannol a Chais am Fenthyciad.
Mae’n rhaid i mi fynd drwy’r system ‘glirio’. Beth sydd angen i mi ei wneud?
Ar ôl i chi dderbyn lle yn bendant rhaid i chi ddarparu’r manylion newydd i ni. Rhaid llenwi ffurflen 'CO1' a geir gan y Student Loans Company neu wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru a’i ddychwelyd ar fyrder.
Dydw i ddim yn mynd i’r Coleg / Prifysgol a nodwyd ar fy ffurflen gais. Beth ddylwn i ei wneud?
Rhaid i chi lenwi a dychwelyd ffurflen 'CO1' a gewch gan y Student Loans Company neu wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Rydw i’n newid cwrs ond yn bwriadu mynd i’r un Coleg / Prifysgol a nodwyd ar fy ffurflen gais. Beth ddylwn i ei wneud?
Rhaid i chi lenwi a dychwelyd ffurflen 'CO1' a gewch gan y Student Loans Company neu wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Rydw i wedi penderfynu peidio â mynd i’r Coleg / Prifysgol eleni. Beth ddylwn i ei wneud?
Rhaid i chi lenwi a dychwelyd ffurflen 'CO1' a gewch gan y Student Loans Company neu wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Pryd fydda’ i’n derbyn rhandaliad cyntaf fy menthyciad?
Os ydych wedi bodloni’r dyddiadau cau h.y. bod eich Ffurflen PN1 wedi ei derbyn erbyn 30 Mehefin neu eich Ffurflen PR1 erbyn 26 Mai, dylai rhandaliad cyntaf eich benthyciad fod yn barod i chi ei gasglu ar ffurf siec yn ystod wythnos gyntaf eich cwrs yn amodol bod y rhaglen Protocol yn gweithredu’n foddhaol.
Os oes arnoch angen Ffurflen CO1 – Newid mewn Amgylchiadau, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, mae croeso i chi gysylltu â’r Swyddfa Cymorth Ariannol i Fyfyrwyr ar 08456 077577.


Rhoi adborth ar y tudalen hon