Swyddfa Gwasanaethau Etholiadol
Ystafell 235
Swyddfeydd y Sir
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
LL15 1YN
Teleffon:
01824 706104
Yr Adran Gwasanaethau Etholiadol sy’n gyfrifol am gynhyrchu’r Gofrestr Etholwyr flynyddol sy’n cynnwys pob un o’r trigolion sy’n gymwys i bleidleisio.
Bob blwyddyn, yn niwedd Awst a dechrau Medi, bydd y Cyngor yn anfon ffurflen Cofrestr Etholwyr i bob cartref yn y Sir. Ffurflen i’r cartref yw hon a dylid ei chwblhau a’i dychwelyd gan roi manylion o bob oedolyn a fydd yn byw yno ar 15 Hydref.
Gall cartrefi lle nad yw’r enwau wedi newid ers cofrestru o’r blaen ail gofrestru dros y ffôn neu ar y rhyngrwyd drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y ffurflen.
Bydd y Gofrestr a fydd yn cael ei pharatoi o’r ffurflenni a ddychwelir, yn cael ei chyhoeddi ar 1 Rhagfyr.
Gan y bydd y gofrestr yn cael ei diweddaru’n fisol rhwng 1 Rhagfyr a’r 20 Awst y flwyddyn ddilynol gallwch gyflwyno cais i fynd ar y gofrestr ar unrhyw adeg.Gelwir hyn yn Gofrestru Treigl.

Rhoi adborth ar y tudalen hon