| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Grantiau Prosiectau Cymunedol

Grantiau Refeniw – 2008/09

Mae'r Cyngor Sir yn trefnu bod arian ar gael i gefnogi prosiectau Refeniw Cymunedol addas sy'n dechrau yn 2008/09 ac mae nawr yn gwahodd ymgeiswyr posibl i gyflwyno manylion eu cynigion.

Am y flwyddyn ariannol 2008/09, mae tua £90,000 ar gael i gefnogi prosiectau Refeniw newydd. Gall cymunedau a grwpiau gwirfoddol, elusennau, Cynghorau Tref a Chymuned a'r Cyngor Sir ei hunan wneud y prosiectau hyn. Rhaid i'r prosiectau fod o fewn Sir Ddinbych neu o wasanaeth i Sir Ddinbych.

Gwahoddir ymgeiswyr i anfon manylion o'u cynigon ar y ffurflen gais i'r cyfeiriad isod i gyrraedd erbyn dydd Gwener, 25 Gorffennaf, 2008.

Pennaeth Gwasanaethau Datblygu
Cyngor Sir Ddinbych,
Trem Clwyd, Canol y Dre, Rhuthun LL15 1QA
Rhif ffôn: 01824 708095
E-bostiwch: datblygiad.economaidd@sirddinbych.gov.uk

Noder y nodiadau canllaw a roddir hefo'r ffurflen gais i gael mwy o wybodaeth.

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0