| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Tīm Datblygu Gweithlu

Bwriad y Tīm Datblygu Gweithlu yw  cymryd cyfrifoldeb am osod y cyfeiriad strategol ar gyfer hyfforddiant a datblygiad staff ar draws y gweithlu gofal cymdeithasol lleol. Fe gyflawnir y bwriad hwn drwy Gynllun Busnes Blynyddol Partneriaeth Datblygiad y Gweithlu Gofal  (PDGG) sy’n cynnwys Gofal Cymuned Oedolion, Plant a Theuluoedd a chynlluniau hyfforddiant Rheolaeth Datblygiad Cymdeithasol sydd wedi eu cysylltu ā Chynllun Datblygu Strategaeth Gofal Cymdeithasol Pum Mlynedd.

Mae’r tīm yn gyfrifol am ddylunio a chyflawni’r cynlluniau hyfforddi Gofal Cymuned, Plant a Theuluoedd a Datblygiad Rheolaeth ac am sicrhau fod pob grŵp staff yn cael y cyfle i ennill cymwysterau cenedlaethol ac adeiladu ar eu sgiliau a’u gwybodaeth drwy ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Mae cylch gwaith y tīm yn cwmpasu Sir Ddinbych gyfan gyda chyfrifoldeb am hyrwyddo, cydlynu a datblygu mentrau hyfforddi ar draws y sector gofal cymdeithasol cyfan o fewn y Sir, yn cynnwys darparwyr gofal y sector annibynnol a’r sector wirfoddol.

Mae Partneriaeth Dd datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol yn darparu rhaglen o hyfforddiant a datblygiad cynhwysfawr.  Mae’r rhaglen hon yn agored i ddarparwyr allanol, neu sefydliadau gofal cymdeithasol priodol eraill sy’n gweithio o fewn Sir Ddinbych, sy’n darparu gwasanaethau oedolion, plant a Theuluoedd.

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0