| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Sir Ddinbych
Y Gofrestr

Mae dwy fersiwn o’r gofrestr: y fersiwn LAWN a’r fersiwn wedi’i GOLYGU. Gallwch ddewis, pan fyddwch yn cwblhau eich ffurflen cofrestru etholwr, a ydych eisiau i’ch manylion gael eu cynnwys ar y gofrestr wedi’i golygu.

Mae’r gofrestr LAWN yn cynnwys enw pawb yn y Sir sydd â hawl i bleidleisio a dim ond ar gyfer rhai dibenion y medrir ei defnyddio, megis etholiadau, gorfodi’r gyfraith a chadarnhau eich adnabyddiaeth pan fyddwch yn gofyn am gredyd. Mae’n drosedd rhoi’r wybodaeth yma i unrhyw un arall neu ei defnyddio at unrhyw ddiben arall. Mae’r Llywodraeth wedi cyflwyno trefniadau newydd ar gyfer archwilio’r gofrestr lawn er mwyn sicrhau y gellir diogelu’r wybodaeth sydd ynddi. Erbyn hyn, dim ond o dan arolygaeth y gellir archwilio’r gofrestr lawn a hynny drwy drefniant o flaen llaw yn Neuadd y Sir, Rhuthun, yn unig. Mae’n drosedd gwneud copi, ac eithrio nodiadau mewn llaw ysgrifen. Gallai camddefnyddio data o’r gofrestr lawn arwain at ddirwy o hyd at £5,000.

Mae’r gofrestr wedi’i GOLYGU’n cynnwys enw pawb yn y Sir sydd â hawl i bleidleisio ac eithrio’r rhai sydd wedi dewis peidio â chael eu cynnwys ar y fersiwn hon o’r gofrestr drwy roi tic yn y blwch priodol ar y ffurflen gofrestru. Gall unrhyw un brynu’r gofrestr hon a’i defnyddio at unrhyw ddiben. Gellir gweld y gofrestr wedi’i golygu mewn Llyfrgelloedd yn y Sir ond cofiwch mai dim ond yr un ar gyfer eu hardal ei hunan fydd gan bob llyfrgell ac nid ar gyfer y Sir i gyd.

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cofrestru Etholiadol neu eich llyfrgell leol am ragor o fanylion. Gweler rhestr isod o'r llyfrgelloedd ynghyd a lleoliad pa rhannau o'r gofrestr a geir ymhob un.

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0