Cymhwyster i Bleidleisio
Yn gyffredinol, i gael ei gynnwys ar Gofrestr Bleidleisio, rhaid i berson fod:
- yn byw yn y Sir ar ddyddiad y cais
- yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig neu o’r Gymanwlad neu’n ddinesydd o aelod wladwriaeth
arall yr Undeb Ewropeaidd neu o Diriogaeth Brydeinig Dramor - yn 18 oed a throsodd (neu dod yn 18 oed yn ystod oes y gofrestr)
Nid yw dinasyddion gwledydd eraill sydd yn preswylio yn y wlad yn gymwys i gofrestru o dan y gyfraith bresennol.
Er engraifft: Tseina; Twrci; Unol Daleithiau America; Y Ffilipins a.y.b
NI FYDD priodi dinesydd Prydeinig na chymeradwyaeth i fyw'n barhaol yn y DU yn rhoi dinasyddiaeth Prydeinig na'r hawl i bleidleisio yn etholiadau'r DU.
Am fwy o wybodaeth ynglyn a Dinasyddiaeth ewch i ymweld a gwefan Asiantaeth Ffin a Mewnfudiad.

Rhoi adborth ar y tudalen hon