| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cofrestru dros y Ffôn, Rhyngrwyd a Tecst

Nid yw’n bosibl cofrestru i bleidleisio dros y ffôn, rhyngrwyd neu tecst.  Mae’n rhaid i’r cais gwreiddiol am bleidlais fod â llofnod yr ymgeisydd arno. Fodd bynnag, unwaith y byddwch wedi cofrestru gallwch adnewyddu eich cofrestriad un ai dros y ffôn, ar y rhyngrwyd neu drwy anfon tecst. 
Bydd y Cyngor yn cynnal ymgyrch cofrestru etholwyr bob blwyddyn yn ystod misoedd Medi, Hydref a Tachwedd. Anfonir ffurflen i bob cartref yn dangos yr enwau sydd wedi’u cofrestru ar hyn o bryd yn y cyfeiriad hwnnw. Os yw manylion yr etholwyr a ddangosir yn mynd i aros yr un fath mae’n bosibl i’r person sy’n cwblhau’r ffurflen gadarnhau’r manylion hynny ar rif rhadffon, ar wefan neu tecst drwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar y ffurflen. 

Bydd gofyn i chi gael y ffurflen wrth law pan fyddwch yn gwneud hynny gan y bydd rhaid defnyddio’r rhifau diogeledd unigryw sydd ar bob ffurflen. Peidiwch ag anfon y ffurflen yn ôl os byddwch wedi cofrestru dros y ffôn, rhyngrwyd neu tecst– bydd hyn yn arbed costau post i’r Sir.

Yn ogystal â galluogi pobl i gadarnhau eu manylion, bydd cofrestru dros y ffôn a’r rhyngrwyd yn golygu y gall y person hefyd gadarnhau manylion i ofyn am ffurflenni pleidlais bost a newid statws pleidleiswyr sydd ar y Gofrestr wedi’i Golygu ar hyn o bryd. Peidiwch â phoeni os byddwch yn gwneud camgymeriad wrth gadarnhau’r manylion dros y ffôn, rhyngrwyd neu tecst– gallwch ddal i gwblhau ac anfon yr wybodaeth ar y ffurflen bapur – bydd hyn yn cael blaenoriaeth dros unrhyw wybodaeth a geir dros y ffôn neu’r rhyngrwyd.
I ddefnyddio’r gwasanaeth:

NODER NA FEDRWCH DDEFNYDDIO YR OPSIYNAU CANLYNOL OND YN YSTOD CYFNOD Y CANFAS - SEF 26 AWST  - 30 TACHWEDD

Ffôn – bydd defnyddwyr yn deialu’r rhif rhadffôn 0800 197 2208. Gofynnir iddyn nhw am y côd diogeledd chwe rhif ac yna ail gôd pedwar rhif.  Gellir gweld y codau unigryw hyn ar ben cornel dde’r ffurflen.  Yna gofynnir i’r galwyr ddilyn cyfarwyddiadau’r system awtomatig. Bydd y system yn diolch i’r galwr am ddefnyddio’r gwasanaeth ac yn cydnabod y cofrestriad.  Ar ôl hynny gall y galwr daflu’r ffurflen gofrestru neu ei chadw fel cofnod.

Y Rhyngrwyd – mae’r drefn yr un fath ag ar gyfer y gwasanaeth ffôn ond bod defnyddwyr cyfrifiaduron yn cysylltu â’r wefan ac yna'n dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrîn.   Maen nhw’n defnyddio’r un codau diogeledd â’r gwasanaeth ffôn. Gall etholwyr sy'n defnyddio gwasanaeth cofrestru y rhyngrwyd llawrlwytho ffurflen gais i bleidleisio drwy'r post.

Tecst - Yn ur un modd gellir gadarnhau manylion cofrestru drwy neges-destun gan ddefnyddio'r côd pwrpasol a welir ar y ffurflen a'i decstio i 80212. (Taliad rhwydwaith arferol).

Unwaith y cofrestrir ar y ffôn, rhyngrwyd neu tecst, dyw’r gwasanaeth ddim ar gael mwyach.  Fodd bynnag, gall defnyddwyr wrthwneud y cofrestriad drwy ddychwelyd y ffurflen drwy’r post.

 

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0