| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Byw neu Gweithio Dramor
overseas

Os ydych yn ddinesydd Prydeinig ac yn byw neu’n gweithio dramor gallwch fod â hawl i bleidleisio mewn etholiadau Seneddol neu etholiadau Senedd Ewrop o’ch cyfeiriad cofrestredig diwethaf.  I fod yn gymwys i gofrestru fel pleidleisiwr tramor mae’n rhaid i ymgeiswyr fod wedi cael eu cofrestru yn y DU o fewn cyfnod o 15 mlynedd.
Unwaith y byddwch wedi eich cofrestru fel pleidleisiwr tramor gallwch bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy mewn etholiadau Seneddol ac i’r Senedd Ewropeaidd.
Gallwch bleidleisio fel pleidleisiwr tramor os:

  •  Ydych yn Ddinesydd Prydeinig yn byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig 
  •  Oedd eich enw ar y gofrestr etholiadol o’r blaen ar gyfer cyfeiriad yn y dosbarth
  •  Nad oes mwy na 15 mlynedd rhwng dyddiad cymwys y cofrestriad a dyddiad y cais

 Am ffurflen cysylltwch â’r gwasanaeth cofrestru etholiadol.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0