| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Pleidleiswyr y Lluoedd

Os ydych yn aelod o luoedd arfog Ei Mawrhydi, yn Was y Goron neu’n cael eich cyflogi gan y Cyngor Prydeinig gallwch ofyn am gael eich cynnwys ar y gofrestr drwy ddatganiad neu ar ffurflen gofrestru cartref fel pleidleisiwr yn y lluoedd.  Anfonir ffurflenni adnewyddu dri mis cyn y dyddiad adnewyddu.
 Os yw pleidleisiwr yn y lluoedd yn cofrestru fel pleidleisiwr ‘cyffredin’ yna mae mewn gwirionedd yn peidio â chael ei gofrestru fel un yn y lluoedd.  Rhaid cyflwyno’r datganiad drwy adran berthnasol y llywodraeth neu’r Cyngor Prydeinig.
Gall aelodau o’r lluoedd arfog a’u priod gofrestru:

  • Drwy ddatganiad y lluoedd (am gyfnod o 36 mis). Rhaid i’r datganiad gael ei dderbyn gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol o fewn tri mis i ddyddiad y datganiad a gall y datgennydd ei ddiddymu ar unrhyw adeg; neu 
  • Yn eu cyfeiriad gartref (yr un ffordd ag etholwyr o sifiliaid – gan ddefnyddio ffurflenni cais unigol neu’r ffurflen ganfas flynyddol

Cysylltwch â’r gwasanaeth cofrestru etholiadol i ofyn am ffurflen.

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0