| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Cofrestru'n ddienw

Gall rhai pobl erbyn hyn ofyn am gael eu cynnwys yn ddienw ar y gofrestr etholwyr.   Er bod y gofrestr etholwyr mewn trefn strydoedd yn ôl yr wyddor ac nid mewn trefn enw mae rhai pobl yn teimlo y gallai bod ar y gofrestr etholwyr beryglu eu diogelwch e.e. pobl yn dianc oddi wrth drais teuluol neu’r rhai sydd â’u gwaith yn golygu y bydd raid iddyn nhw gadw eu hadnabyddiaeth yn breifat.

Os ydych yn ofni y byddech mewn perygl pe byddai eich enw’n ymddangos ar y gofrestr etholwyr gallwch ofyn am gael eich cynnwys yn ddienw ac os bydd eich cais yn cael ei dderbyn eich rhif pleidoleisio’n unig a fydd yn ymddangos a heb eich enw na’ch cyfeiriad.  Gall unrhyw un yn byw gyda chi hefyd ofyn am gael ei gofrestru fel hyn.
Bydd gofyn i chi gwblhau un o’r ffurflenni isod gan roi’r rheswm pam y dylech gael eich cofrestru’n ddienw.   Mae’n rhaid i chi yn ôl y gyfraith ddarparu tystiolaeth ddogfennol ar ffurf gorchymyn neu waharddeb llys.  Os nad oes gennych un o’r rhain yna yn ôl y gyfraith bydd raid i’ch cais gael ei gefnogi gan un o’r canlynol:

Prif Swyddog yr Heddlu mewn unrhyw heddlu yng Nghymru a Lloegr; neu Prif Gwnstabl unrhyw heddlu yn yr Alban neu Wasanaeth yr Heddlu Gogledd Iwerddon
Cyfarwyddwr Cyffredinol y Gwasanaethau Diogelwch neu’r Asiantaeth Troseddau Difrifol wedi’u Trefnu
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Plant neu Oedolion yn Lloegr, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru neu Brif Swyddog Gwaith Cymdeithasol yn yr Alban.
Nid oes raid i’r swyddog cymwys fod yn yr un ardal â chi ond ni all y dogfennau priodol gael ei llofnodi gan swyddog is yn eu sefydliad. 
I ofyn am gael cofrestru’n ddienw cysylltwch â’r Gwasanaeth Cofrestru Etholiadol i ofyn am ffurflen neu llawr lwythwch y ffurflen isod.


 

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0