Gwasanaethau Etholiadol
Ystafell 235
Neuadd Y Sir
Ffordd Wynnstay
Ruthun
LL15 1YN
Teleffon:
01824 706104
Proses ddemocratig yw etholiadau ble mae dinasyddion 18 oed a throsodd yn ethol ymgeiswyr gwleidyddol i’w cynrychioli nhw a’u buddiannau’n lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Pob dydd, mae penderfyniadau sy’n effeithio bywydau pob un ohonom, yn cael eu cymryd gan gynghorwyr lleol, Aelodau Seneddol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd Ewrop.
Mae’u penderfyniadau’n effeithio ar nifer o feysydd gan gynnwys addysg a chyflogaeth, iechyd, busnes, tai, yr amgylchedd, hamdden a gwasanaethau cymdeithasol.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael dweud eich dweud - defnyddiwch eich hawl i bleidleisio. Os nad ydych, byddwch yn colli’ch cyfle i ddylanwadu ar y ffordd mae pethau’n cael eu rhedeg yn y wlad, neu’ch rhan chi ohoni. Mae pob pleidlais yn gyfartal - mae'ch pleidlais chi'r un mor bwysig â phleidlais unrhyw un arall.
Mae unrhyw un sydd wedi’i ch / gofrestru yn y Gofrestr Etholwyr yn gallu pleidleisio. Y Swyddog Canlyniadau sy’n gyfrifol am gynnal pob un Etholiad sy’n digwydd yn Sir Ddinbych.
Mae'r adran hon yn egluro’r gwahanol fathau o etholiadau sy’n cael eu cynnal (a phryd) ac yn rhoi gwybodaeth ar ganlyniadau’r rhai mwyaf diweddar.

Rhoi adborth ar y tudalen hon