| Hygyrchedd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Dystysgrifau Geni, Priodas a Marwolaeth

Os digwyddodd yn y Sir, mae copi o'r dystysgrif ar gael o'r Swyddfa Gofrestru. Mae ffiniau Sirol wedi newid dros y blynyddoedd ac efallai na fydd bob amser yn amlwg lle digwyddodd yr achlysur, felly peidiwch â phetruso i siarad â'r Swyddfa Gofrestru a gofyn am gyngor.


Ar gyfer genedigaeth neu farwolaeth yn Ysbyty Llanelwy neu Ysbyty Glan Clwyd, cysylltwch â Swyddfa'r Rhyl (Gogledd Sir Ddinbych); ar gyfer ardal Rhuthun neu Ddinbych cysylltwch â Swyddfa Rhuthun (De Sir Ddinbych). Hefyd, cysylltwch â'r Swyddfa briodol ar gyfer priodasau yn yr ardaloedd hyn.

Ar gyfer pob tystysgrif copi bydd angen i chi ein hysbysu o: 

  • Enw'r person (a'u partner yn achos priodas)
  • Dyddiad geni neu farwolaeth
  • Man geni neu farwolaeth
  • Enw'r eglwys neu swyddfa ar gyfer priodas

Medrwch ddodi'r manylion hyn mewn llythyr neu medrwch lwytho'r ffurflen briodol i lawr a'i anfon gyda'r ffi i:

Swyddfa Gofrestru'r Rhyl  
Morfa Clwyd   
Marsh Road   
Y Rhyl    
Sir Ddinbych LL18 2AT

Ffôn: 01745 366610

Swyddfa Gofrestru Rhuthun
Neuadd y Dref Rhuthun
Ffordd Wynnstay
Rhuthun
Sir Ddinbych LL15 1YN

Ffôn: 01824 706187

Amgaewch siec neu archeb bost am £7.00 yn daladwy i 'Cyngor Sir Ddinbych' ynghyd ag amlen barod â stamp.

Fel arall, medrwch ein ffonio gyda manylion eich cais a thalu am y copi gyda cherdyn debyd neu gredyd yn eich enw chi.

Medrwch hefyd wneud cais yn bersonol yn y Swyddfa Gofrestru yn ystod oriau gwaith arferol.

O 1af Ebrill 2008, mae gwasanaeth Tystysgrif Blaenoriaeth  ar yr un dydd ar gael os byddwch yn ei archebu cyn 11.00a.m.: 

Gwasanaethau Ffi
£

Tystysgrif a roddir ar yr un dydd (ag eithrio Tystysgrif Hanes Teulu).

Rhaid derbyn ceisiadau cyn 11.00 a.m.

£24.00 + £1.00 p & p
Gwasanaeth arferol £7.00 + £1.00 p & p


 

Addasiadau i Dystysgrifau  Geni a Marwolaeth

Dim ond ar rai achlysuron prin y bu hi'n bosibl gwneud addasiadau i gofrestr geni neu farwolaeth wreiddiol. Ffoniwch y Swyddfa Gofrestru i drafod y meini prawf.

Ymlyniadau
  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0