ydym yn gwybod y gall hel eich achau fod yn broses faith, sy'n cymryd amser. Mae ffiniau siroedd a dosbarthau cofrestru wedi newid nifer o weithiau, gan ei gwneud yn anodd weithiau olrhain y cofnodion rydych eu hangen.
Cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru i holi i ble dylech anfon eich cais.
Os gwelwch yn dda, cynhwyswch gymaint o fanylion ag y medrwch. Nid yw cyfeirnodau mynegai sydd gennych yn berthnasol fel rheol i gofnodion a ddelir yn lleol ond medrent helpu o hyd wrth adnabod cofnod ar y gofrestr. Gall cofnodion priodas fod yn arbennig o anodd eu holrhain gyda chymaint o leoliadau, felly cynhwyswch unrhyw gyfeiriadau hysbys ar y pryd a manylion eraill.
Nid oes gan swyddfeydd cofrestru'r adnoddau i ymgymryd â chwiliadau maith o natur amhenodol. Fel rheol, bydd yn chwilio yn y mynegai ar gyfer cyfnod o 5 mlynedd. Os bydd angen chwiliad meithach, gall yr ymgeisydd wneud cais am chwiliad cyffredinol yn y mynegeion, am ffi o £18 am hyd at 6 awr. Cysylltwch â'r Cofrestrydd Arolygu (ffôn: 01745 366611).


Rhoi adborth ar y tudalen hon