| Hygyrchedd | Tudalennau Lleferydd |
www.sirddinbych.gov.uk www.sirddinbych.gov.uk
Seremonïau Enwi

Mae Seremoni Enwi yn ffordd arbennig iawn o ddathlu genedigaeth eich plentyn a chroesawu person newydd i'r teulu a'r gymuned yn ehangach.

Mae'n ddelfrydol ar gyfer croesawu plant o unrhyw oedran i deulu newydd, babanod neu efallai lysblant neu blant wedi eu mabwysiadu, trwy ddatgan gerbron teulu a chyfeillion eich addewid i fod yn rhiant da. Medrwch gynnwys mwy nag un plentyn o'r un teulu yn y Seremoni Enwi.

Bydd Gweinydd proffesiynol gyda hyfforddiant priodol yn ymgymryd â'r seremoni yn unol â'r dewisiadau a wneir gennych chi.

Medrwch ddewis o ddetholiad eang o addewidion a darlleniadau, a medrwch gynnwys rhesymau dros enw'r plentyn, gobeithion ar gyfer ei dd/dyfodol, addewidion gan Oedolion Cefnogol a Theidiau a Neiniau, ac addewidion y rhieni i'w gilydd. Mae llawer o ffyrdd i wneud seremoni eich plentyn yn bersonol iawn ac yn ddigwyddiad unigryw. Yn ystod y seremoni, llofnodir Cofnod Seremoni gan y rhieni, oedolion cefnogi a'r Gweinydd.

Nid oes angen i'r rhieni fod yn briod, a medrent ddod o unrhyw gefndir diwylliannol, gydag unrhyw gredoau ysbrydol neu grefyddol neu ddim cred o gwbl. Bydd angen i chi arddangos tystysgrif eni'r plentyn.

Nid oes yn rhaid i chi fyw yn yr ardal hon er mwyn cael Seremoni Enwi yma.

Gellir cynnal Seremoni Enwi yn union ar ôl eich priodas sifil / partneriaeth sifil.

Mae'r seremoni yn anghrefyddol ac nid oes statws cyfreithiol  iddi - mae'n ddathliad yr ydych chi fel rhieni yn ei ddewis i'w wneud fel arddangosfa gyhoeddus o gariad ac ymrwymiad i'ch plentyn.

Gellir cynnal Seremonïau Enwi yn Swyddfeydd Cofrestru Gogledd Sir Ddinbych (Y Rhyl) neu Dde Sir Ddinbych (Rhuthun) neu mewn unrhyw un o'r eiddo a gymeradwywyd ar gyfer seremonïau sifil yn y Sir.

Ffioedd – arolygir yn flynyddol ar 1af Ebrill

£50.00blaendal na ellir ei ad -dalu wrth drefnu
£45.00Swyddfa Gofrestru
£110.00Eiddo cymeradwy - Llun - Gwener
£125.00Eiddo cymeradwy - Sadwrn
£150.00Eiddo cymeradwy - Sul / Gwyliau Banc

  Level Double-A conformance icon, W3C-WAI Web Content Accessibility Guidelines 1.0